NEW

Athro Addysg Gorfforol (Cyfnod Mamolaeth)

Employer
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur
Location
Ystalyfera, Neath Port Talbot
Contract Type
Fixed term contract
Hours
Part Time
Salary
MPS
Start Date
29th September 2025
Expires
16th May 2025 11:59 AM
Contract Type
Fixed term contract
Job ID
1484710
Job Reference
AddGorff2025
Start Date
29th September 2025
  • Contract Type :Fixed term contract
  • Contract Length: Mamolaeth
  • Job ID: 1484710

Swydd athro Addysg Gorfforol (MDaPh Iechyd a Lles)

Cyfnod Mamolaeth (0.8)

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro ymroddgar i swydd yn yr adran Addysg Gorfforol yn Ystalyfera ar gyfnod mamolaeth o fis Hydref 2025. Rydym yn chwilio am berson blaengar, brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol sydd â’r gallu i addysgu addysg gorfforol o fewn y Maes Iechyd a Lles. Addysgir Addysg Gorfforol fel rhan o’n cwricwlwm Iechyd a Lles, ble mae dysgwyr yn dysgu am yr ochr ffitrwydd a iechyd a lles corfforol yn ogystal â datblygu dealltwriaeth am iechyd meddwl a lles emosiynol.

Mae gan yr Adran dîm profiadol o staff, sydd yn cefnogi eu gilydd ac yn anelu am y gorau wrth bob un o’n dysgwyr gan danio eu brwdfrydedd o fewn y pwnc, ynghyd â chynorthwyo gyda’r llu o weithgareddau allgyrsiol chwaraeon mae’r ysgol yn cynnig i’n dysgwyr. Nodwedd arbennig o’r adran yw’r disgwyliadau a’r safonau cyson uchel o ran gweithgaredd allgyrsiol a chyfleoedd i ddisgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o athrawon ymroddgar dros ben sydd yn cynnig cyfleoedd amrywiol mewn sawl camp i ddisgyblion sy’n cyflawni ar lefel uchel iawn. Yn ogystal mae’r adran yn cyfrannu at weithgaredd a blaengareddau ysgol gyfan i hyrwyddo cyswllt cynradd, bywyd iach a datblygu hyfforddwyr ifanc.

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol 3-18 oed sydd wedi'i lleoli yng Nghwm Tawe ac mae ein harlwy addysgol yn seiliedig ar ethos bugeiliol a theuluol cryf. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol boblogaidd a ffyniannus, mae gennym hanes ardderchog o sicrhau llwyddiant academaidd, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd cyfoethogi a sicrhau addysg gyffredinol ragorol. Fel rhan o brosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’r ysgol wedi gweld cryn dipyn o fuddsoddiad yn ei hadeiladau a'i chyfleusterau; mae’r cam olaf wedi darparu neuadd ysgol newydd, ardal fwyta, ystafelloedd dosbarth addysgu, adain gelfyddydol perfformio, llain 2G a chyrtiau tenis / ardal aml-bwrpas.

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi’r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais swyddogol. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.

Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Gwener 16 Mai 2025

Dyddiad dechrau y swydd: Hydref 2025

Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Part of Neath Port Talbot LA

Neath Port Talbot LA