Athro Mathemateg safle BRO DUR

School
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur
Location
Ystalyfera, Neath Port Talbot
Contract Type
Fixed term contract
Hours
Full Time
Salary
PRG
Start Date
1st September 2025
Expires
20th November 2024 12:00 PM
Contract Type
Fixed term contract
Job ID
1451612
Job Reference
Maths 25
Start Date
1st September 2025
  • Contract Type :Fixed term contract
  • Contract Length: Blwyddyn i gychwyn
  • Job ID: 1451612

Swydd ar safle Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot yw hon.

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes ymroddgar i swydd i addysgu Mathemateg ym Mro Dur o fis Medi 2025 ymlaen.

Mae’r adran Fathemateg wedi’i sefydlu yn hynod lwyddiannus yn yr ysgol newydd hon gyda chwricwlwm cyffrous, blaenga. Byddwch yn ymuno ag adran glos a chefnogol sydd yn frwdfrydig dros ddatblygu meddwl mathemategol a sgiliau rhif ein disgyblion Mae brwdfrydedd a gweledigaeth gadarn i gyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn flaenoriaeth glir i’r ysgol.

Mae campws Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol, sy’n gweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfleoedd allgyrsiol am y cyfnod hynod lwyddianus o Amser Aur bob prynhawn Gwener.

Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu deinamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.

Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun, Tachwedd 18 2024

Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2025

Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Part of Neath Port Talbot LA

Neath Port Talbot LA