Swydd Athro MDaPh Ieithoedd Cyfathrebu a Llythrennedd (Adran Saesneg)
Contract Parhaol
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag adran ffyniannus mewn ysgol hynod lwyddiannus. Rydym yn awyddus i benodi athro Saesneg brwdfrydig, uchelgeisiol ac arloesol a all wneud cyfraniad sylweddol i'r adran hon. Mae’r Adran wedi’i sefydlu yn llwyddiannus ar draws y Cyfnodau Allweddol ac mae’n cydweithio’n agos â phynciau cysylltiol gan adeiladu dealltwriaeth disgyblion i ymgymryd â heriau ieithyddol mewn amrywiaeth o gyd-destynau. Byddwch yn ymuno â thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol, sy’n gweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd.
Mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer ein myfyrwyr, yn academaidd, ac wrth eu cefnogi i ddatblygu'r sgiliau a'r agweddau sydd eu hangen i ffynnu mewn byd sy'n gynyddol gystadleuol a chymhleth. Rydym yr un mor ymrwymedig i sicrhau bod ein disgyblion yn mwynhau'r ysgol, yn datblygu cyfeillgarwch ac yn profi cyfleoedd ystyrlon a gwerthfawr.
Yma yn Ysgol Gymraeg Bro Dur, mae egwyddorion Ysgol Fel Sefydliad Dysgu yn greiddiol i’n gweledigaeth ar gyfer dysgu proffesiynol. Rydym yn anelu at sicrhau bod pob ymarferydd yn cael eu cymell gan y set gyffredinol o werthoedd ac ymagweddau sydd wedi'u cynnwys yn y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu. O ganlyniad, mae gan athrawon yn Ysgol Gymraeg Bro Dur fynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol o'r ansawdd gorau.
Croesawn geisiadau wrth athrawon newydd gymhwyso, neu athrawon profiadol a fydd yn ymgymryd â rhaglen gynefino effeithiol a chefnogol yr ysgol. Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu deinamig a blaengar a’r sgiliau rhyng bersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd Gwener 26ain Ebrill 2024
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2024
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.