Pennaeth Canolfan Gwenallt (Chweched Dosbarth)

Employer
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur
Location
Ystalyfera, Neath Port Talbot
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
Raddfa Gyflog Athrawon + CAD 1c
Start Date
1st September 2027
Expires
16th November 2026 09:00 AM
Contract Type
Permanent
Job ID
1581264
Job Reference
Pennaeth6edYGY27
Start Date
1st September 2027
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: Parhaol
  • Job ID: 1581264

Pennaeth Canolfan Gwenallt

Swydd ar safle Ystalyfera yw hon.

TLR 1C

Mae'r ysgol yn falch o wahodd ceisiadau ar gyfer swydd Pennaeth Canolfan Gwenallt ac yn chwilio am arweinydd eithriadol i arwain a datblygu'r unig ddarpariaeth chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Canolfan Gwenallt wrth galon darpariaeth ôl-16 yr ysgol ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu pobl ifanc uchelgeisiol, dwyieithog a hyderus sy'n barod ar gyfer addysg uwch, cyflogaeth a bywyd modern. Fel aelod o'r Tîm Arwain Estynedig, bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer yr holl ddarpariaeth ôl-16 ac yn cyfrannu at gyfeiriad ac uchelgais yr ysgol 3-18.

Rydym yn awyddus i benodi unigolyn sydd â gweledigaeth glir ar gyfer addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg, ynghyd â'r egni, y sgiliau arwain a'r ymrwymiad i sicrhau'r profiadau a'r deilliannau gorau posibl i fyfyrwyr.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:

· Feddu ar hanes cryf o arwain a chodi safonau.

· Meddu ar ddealltwriaeth ragorol o addysg ôl-16 a llwybrau academaidd a galwedigaethol.

· Arwain yn effeithiol ar gyflawniad, presenoldeb, lles a datblygiad personol myfyrwyr.

· Datblygu cwricwlwm ôl-16 modern ac uchelgeisiol.

· Meithrin diwylliant o uchelgais, annibyniaeth ac arweinyddiaeth ymysg myfyrwyr.

· Datblygu partneriaethau cryf gyda phartneriaid Dur a Môr, phrifysgolion, colegau, cyflogwyr a rhanddeiliaid allanol.

· Hyrwyddo'r Gymraeg a gwerthoedd yr ysgol ym mhob agwedd o fywyd y Ganolfan.

· Cyfrannu'n weithredol at ddatblygiad strategol yr ysgol gyfan.

Y Ganolfan

Mae Canolfan Gwenallt yn gymuned ffyniannus o tua 220 o fyfyrwyr, gyda thua 120 ym Mlwyddyn 12 a 100 ym Mlwyddyn 13. Mae'n cynnig ystod eang o gymwysterau academaidd a galwedigaethol ochr yn ochr â rhaglen gyfoethogi gynhwysfawr sy'n cefnogi myfyrwyr i wireddu eu potensial a datblygu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Ganolfan wedi adeiladu enw da cryf am safonau uchel, perthnasoedd cadarnhaol a deilliannau llwyddiannus, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn symud ymlaen i addysg uwch, gyrfaoedd proffesiynol a rolau dylanwadol mewn amrywiaeth o feysydd.

Bydd y rôl yn cynnig cyfle i:

· Arwain a datblygu'r unig ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot.

· Dylanwadu ar gyfeiriad strategol ysgol Gymraeg 3-18 flaengar.

· Datblygu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr trwy bartneriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

· Arwain datblygiad arweinyddiaeth myfyrwyr a llais y dysgwr.

· Sicrhau bod pob myfyriwr yn cyflawni ei botensial ac yn symud ymlaen yn hyderus i'w gam nesaf.

Pam ymgymryd â'r rôl hon?

Mae hon yn swydd arweinyddiaeth allweddol o fewn yr ysgol ac yn gyfle prin i arwain canolfan ôl-16 lwyddiannus sydd â dylanwad sylweddol ar fywydau pobl ifanc ar draws y rhanbarth. Bydd y Pennaeth newydd yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol Canolfan Gwenallt ac wrth ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, gweithwyr proffesiynol a dinasyddion Cymru.

Proses Ymgeisio

Gellir ymgeisio drwy gyflwyno ffurflen gais swyddogol a llythyr cais sy'n amlinellu:

· Profiad perthnasol o arwain.

· Cryfderau arwain a rheoli.

· Gweledigaeth ar gyfer dyfodol Canolfan Gwenallt.

· Syniadau ar gyfer datblygu addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg ymhellach.

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera-Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi'r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ymgeiswyr i gysylltu am sgwrs anffurfiol gyda'r Pennaeth.

Dyddiadau Allweddol

Dyddiad Cau: Dydd Llun 16eg Tachwedd am 9.00yb Dyddiad Dechrau: Medi 2027

Attachments

Safeguarding Statement:

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi’r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur