Pennaeth Mathemateg

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur
Lleoliad
Ystalyfera, Neath Port Talbot
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
1st September 2027
Yn dod i ben
16th Tachwedd 2026 09:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1581261
Cyfeirnod y swydd
PennaethMathsYGY27
Dyddiad cychwyn
1st September 2027
  • Math o Gontract:Parhaol
  • Hyd y contract: Parhaol
  • ID swydd: 1581261

Pennaeth yr Adran Fathemateg

Swydd ar safle Ystalyfera yw hon.

TLR 1b

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi arweinydd profiadol, ysbrydoledig ac uchelgeisiol i arwain un o adrannau mwyaf llwyddiannus a mwyaf dylanwadol yr ysgol. Dyma swydd allweddol o fewn yr ysgol gan fod Mathemateg yn bwnc craidd sy'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau llwyddiant academaidd a datblygu sgiliau bywyd ein disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain adran flaengar sy'n mwynhau enw da cryf am safonau uchel, perthnasoedd cadarnhaol a deilliannau rhagorol.

Bydd angen brwdfrydedd, egni a gweledigaeth i arwain yr adran ymlaen yn y cyfnod nesaf o'i datblygiad. Dyma gyfle ardderchog i unigolyn sydd ag angerdd dros fathemateg, addysgu a dysgu o'r safon uchaf ac arweinyddiaeth effeithiol.

Bydd yr unigolyn a benodir yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol, gyda'r gallu i ysbrydoli disgyblion a chefnogi cydweithwyr i ddatblygu eu harfer ymhellach. Bydd ganddo'r hyder a'r gallu i adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes yn bodoli, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial llawn a bod yr adran yn parhau i ffynnu.

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol 3-18 cyfrwng Cymraeg lwyddiannus sy'n gwasanaethu cymuned eang ar draws Castell-nedd Port Talbot a'r ardaloedd cyfagos. Mae gennym hanes cryf o gyflawniad academaidd uchel, darpariaeth gyfoethogi gyfoethog ac ymrwymiad diwyro i'n harwyddair, "Dysgu Gorau, Dysgu Byw".

Mae'r Adran Fathemateg yn adran weithgar, glos a hynod gefnogol sy'n gweithio'n gydweithredol iawn er budd pob disgybl. Mae'r adran yn cynnwys tîm o ymarferwyr profiadol ac ymroddedig sydd â disgwyliadau uchel ac uchelgais cryf dros eu pwnc a'u disgyblion. Mae canlyniadau'r adran yn gryf yn gyson, ac mae nifer uchel o fyfyrwyr yn dewis parhau i astudio Mathemateg a Mathemateg Bellach yng Nghanolfan Gwenallt. Mae hyn yn adlewyrchu ansawdd yr addysgu, cryfder y berthynas rhwng staff a myfyrwyr a'r diwylliant academaidd cadarn sydd wedi'i sefydlu o fewn yr adran.

Mae'r ysgol yn credu'n gryf bod arweinyddiaeth effeithiol yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ifanc. Mae'r swydd hon felly'n cynnig cyfle rhagorol i arweinydd uchelgeisiol wneud cyfraniad sylweddol at ddyfodol yr ysgol ac i ddatblygu ymhellach fel arweinydd addysgol. Dyma gyfle i arwain adran sydd nid yn unig yn llwyddiannus ar hyn o bryd ond sydd hefyd â photensial sylweddol i ddatblygu ymhellach. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau arweinyddiaeth cryf, gweledigaeth glir a'r gallu i adeiladu ar gryfderau presennol yr adran, gan sicrhau safonau rhagoriaeth ar draws y Cyfnodau Allweddol.

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi'r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu drefnu sgwrs anffurfiol gyda'r Pennaeth.

Dyddiadau Allweddol

Dyddiad Cau: Dydd Llun 16eg Tachwedd am 9.00yb

Dyddiad Dechrau: Medi 2027

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur