Swydd Athro Dyniaethau a Bagloriaeth Cymru

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur
Lleoliad
Ystalyfera, Neath Port Talbot
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
1st November 2026
Yn dod i ben
11th Medi 2026 11:59 AM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1571743
Cyfeirnod y swydd
Dyniaethau1926
Dyddiad cychwyn
1st November 2026
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: Blwyddyn
  • ID swydd: 1571743

Swydd ar safle Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot yw hon.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein tîm addysgu ymroddedig yn ehangu, gyda chyfleoedd newydd cyffrous ar gael i ymuno â’n cymuned ysgol fywiog. Yn sgîl hyn, mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes ymroddgar i addysgu Dyniaethau a Bagloriaeth Cymru ym Mro Dur o fis Tachwedd 2026 ymlaen neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag adran ffyniannus mewn ysgol hynod lwyddiannus. Rydym yn awyddus i benodi athro/ac athrawes Ddyniaethau brwdfrydig, uchelgeisiol ac arloesol a all wneud cyfraniad sylweddol i’r adran hon yn ogystal â chyflwyno rhaglen Bagloriaeth Cymru o safon uchel. Mae Dyniaethau yn faes cryf a llwyddiannus o fewn yr ysgol, gyda disgyblion yn dangos brwdfrydedd ac ymgysylltiad uchel â’r pynciau ar draws y Camau Cynnydd. Mae’r ddarpariaeth yn cynnig cyfleoedd cyfoethog a pherthnasol i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau disgyblion mewn ystod eang o gyd-destunau. Cefnogir hyn gan gynlluniau gwaith cyffrous ac arloesol sy’n cyd-fynd ag egwyddorion Cwricwlwm i Gymru ac sy’n hyrwyddo chwilfrydedd, meddwl yn feirniadol a dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd gyfrannu at ddarpariaeth Bagloriaeth Cymru yr ysgol, gan gefnogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau cynllunio, ymchwilio, datrys problemau, cydweithio a myfyrio, a’u paratoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau yn y byd modern. Mae Bagloriaeth Cymru yn faes sydd wedi’i sefydlu’n gadarn yn yr ysgol, gyda chynlluniau gwaith clir a datblygedig ar waith. Bydd cefnogaeth a chanllawiau parhaus ar gael i’r ymgeisydd llwyddiannus, gan gynnwys cydweithio ag aelodau profiadol o’r tîm, er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth orau bosibl i’n disgyblion.

Mae campws Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno â thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol sy’n gweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd. Mae hon yn swydd sy’n addas ar gyfer athro neu athrawes newydd gymhwyso, gyda rhaglen gynefino gynhwysfawr, mentora a chefnogaeth broffesiynol barhaus ar gael. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg ac yn barod i gyfrannu’n gadarnhaol at fywyd ehangach yr ysgol.

Mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer ein disgyblion, yn academaidd ac wrth eu cefnogi i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r agweddau sydd eu hangen i ffynnu mewn byd sy’n gynyddol gymhleth a rhyng-gysylltiedig. Rydym yr un mor ymrwymedig i sicrhau bod ein disgyblion yn mwynhau’r ysgol, yn datblygu cyfeillgarwch ac yn profi cyfleoedd ystyrlon a gwerthfawr.

Croesawn geisiadau gan athrawon newydd gymhwyso neu athrawon profiadol a fydd yn ymgymryd â rhaglen gynefino effeithiol a chefnogol yr ysgol. Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar weledigaeth glir o egwyddorion dysgu ac addysgu deinamig a blaengar, ynghyd â’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod effeithiol o dîm brwdfrydig ac ymroddedig.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.

Proses Ymgeisio

Gellir ymgeisio am y swydd hon drwy gyflwyno llythyr cais yn mynegi diddordeb yn y swydd, ynghyd â’r ffurflen gais atodedig. Dylai ymgeiswyr amlinellu eu profiad perthnasol ym maes Dyniaethau a/neu Fagloriaeth Cymru, ynghyd â’u gweledigaeth ar gyfer cyfrannu ymhellach at ddatblygiad disgyblion a chymuned yr ysgol newydd hon.

Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar gwblhau gwiriadau diogelu trylwyr yn foddhaol.

Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Gwener, Medi 11 2026

Dyddiad dechrau y swydd: Tachwedd 2026

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur