Swydd ar safle Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot yw hon.
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes ymroddgar i swydd i addysgu Gwyddoniaeth a STEM ym Mro Dur o fis Medi 2025 ymlaen.
Mae’r adran Wyddoniaeth wedi’i sefydlu yn hynod lwyddiannus yn yr ysgol newydd hon gyda chwricwlwm cyffrous a blaengar. Mae cydweithio agos yn digwydd rhwng Gwyddoniaeth a STEM sydd yn annog chwilfrydedd a chreadigrwydd yn ein disgyblion. Mae brwdfrydedd a gweledigaeth gadarn i gyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn flaenoriaeth glir i’r ysgol. Byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Ffiseg yng Nghyfnod Allweddol 4 yn ogystal â bod yn rhan ganolog o’r gwaith o ddatblygu sgiliau’r disgyblion er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y maes ym Mlwyddyn 7 i 9.
Mae campws Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol, sy’n gweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfleoedd allgyrsiol am y cyfnod hynod lwyddianus o Amser Aur bob prynhawn Gwener.
Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu deinamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Mercher, Tachwedd 20 2024
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2025
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.