Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/athrawes cymwys a brwdfrydig i swydd llawn amser. Ymfalchiwn yn yr hanes hir o lwyddiant sydd i’r ysgol a’r adran. Mae ffocws cryf ar ddatblygu gwybodaeth a sgiliau addysgu athrawon o fewn yr ysgol a sicrhau amgylchedd dysgu symbylus. Edrychwn am unigolyn egniol fyddai’n frwd i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr adran a’r ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu Mathemateg i’r holl ystod oedran a gallu blwyddyn 7-11 gan gynnwys cyrsiau TGAU.
Attachments
Safeguarding Statement:
Mae Ysgol Y Strade yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.