Loading...

Overview

Anelwn at sicrhau’r gorau i’n disgyblion, ym mhob agwedd o fywyd ysgol. Mae ein staff brwd, ymroddgar, y filltir ychwanegol, yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cyrraedd y safonau gorau a fedrant, sy’n eu paratoi ar gyfer addysg gydol oes. Mae pob unigolyn yn bwysig i ni yma yng Nghwm Rhondda ac anelwn at ddatblygu pob sgil, medr, a gallu, trwy ddarpariaeth addysgol a chyfleoedd eang a chyffrous sy’n gweddu’r unfed ganrif ar hugain. Mae dwyieithrwydd rhugl ein disgyblion yn destun balchder i ni. Mae Cymreictod a pharch yn greiddiol i’n bodolaeth yma. Parch at ein hunain, parch at eraill, a’n hamgylchfyd. Parch at ein hiaith, ein gorffennol, a’n diwylliant unigryw. Ymfalchiwn yn ein hunaniaeth a chyrhaeddiadau’n gilydd. Anelwn at greu amgylchfyd gwaraidd sy’n hybu lles a datblygiad pawb yn ein cymuned.

About Us

Ein Hamcanion Ein hamcanion: Cynnig addysg Gymraeg gyflawn o 11-18 oed i bob disgybl Datblygu’r gallu, yr hyder, a’r awydd ym mhob disgybl i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol Darparu’r cyfle i bob disgybl gyflawni ei lawn botensial Darparu amgylchfyd sy’n cynnig cyfleoedd cyfartal a mynediad i bawb Darparu gofal ac arweiniad i ddisgyblion er mwyn eu cefnogi a’u cymell, yn seiliedig ar berthynas adeiladol gyda staff a gyda’i gilydd Datblygu cymeriad pob unigolyn trwy amrywiaeth o brofiadau, fel ei fod yn gymwys i gyfrannu i gymdeithas fel unigolyn cyflawn a chyfrifol Datblygu ysbryd o gydbarchu a phartneriaeth gyda rheini / gwarcheidwaid / ac asiantaethau cefnogi Meithrin perthynas agos a chysylltiad cyson rhwng yr ysgol a’i chymuned Datblygu ymwybyddiaeth o ddiwylliant, traddodiadau, a threftadaeth Cwm Rhondda a Chymru, a pharch tuag atynt, fel sail ar gyfer ehangu gorwelion gwybodaeth a chanfyddiad o ryngberthynas Cymru gydag Ewrop a’r byd yn yr unfed ganrif ar hugain