Croeso cynnes i Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur,
cymuned Cymraeg llwyddiannus a llewyrchus lle mae pob plentyn a myfyriwr yn cael ei herio a’i gymell i ddatblygu’n unigolyn o’r radd flaenaf. Mae ein arwyddair ‘Dysgu Gorau Dysgu Byw’ yn sail i bob peth a wnawn a’n nod yw darparu’r addysg a’r profiadau gorau posibl i baratoi ein plant ar gyfer y camau nesaf mewn bywyd. Rydym yn parchu y gwerthoedd traddodiadol sef gwaith caled, moesau da, a hunan-ddisgyblaeth, tra’n paratoi ein myfyrwyr ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol mewn byd sy’n newid yn barhaus.
Mae’r Ysgol yn lle dysgu lle mae myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn mwynhau eu taith addysgol. Mae Dysgu ac Addysgu arloesol wrth wraidd popeth a wnawn i mewn ac allan o’r ystafell ddosbarth a gyda chymaint o gyfleoedd yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, hyderwn y bydd eich plentyn yn tyfu ac yn ffynnu yma gyda ni. Heb os, rydym yn elwa ar staff ymroddedig sydd â chymwysterau ardderchog er mwyn dod â dysgu yn fyw ar gyfer pob unigolyn yn yr 21ain ganrif.
Credwn fod addysg cyfrwng Cymraeg yn cynnig y gorau posib i blant a phobl ifanc ein gwlad, drwy roi iddynt ddwy iaith werthfawr ac angenrheidiol, geirfa a chysyniadau arbenigol a cyfoethog, a chyfleoedd hwyliog ac amrywiol. Dewch gyda ni, felly ar daith i Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur – rydym yn frwd i weithio’n agos gyda chi i herio, gefnogi ac annog eich phlentyn i wireddu a chyflawni eu dyheadau.
Welcome to our Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur prospectus A warm welcome to Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, a successful and prosperous Welsh-speaking community where all children and students are challenged and motivated to develop into first-class individuals. Our motto ‘Best Learning to Learn to Live’ underpins everything we do and our aim is to provide the best possible education and experiences in order to prepare our children for the next steps in life. We respect the traditional values of hard work, good manners, and self-discipline, while preparing our students for their future lives in a continuously changing world.
Our School is a place of learning where students feel safe and enjoy their educational journey. Innovative Teaching and Learning is at the heart of everything we do both in and outside the classroom and with so many opportunities at Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, we trust that your child will grow and thrive here with us. Undoubtedly, our dedicated and highly qualified staff to bring learning to life for every person in the 21st century.
We firmly believe that Welsh-medium education offers the best possible foundations for the children and young people of Wales, by giving them two valuable and necessary languages, rich and varied concepts and vocabulary, and diverse and engaging opportunities. Join us therefore, on a journey to Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur – we are keen to work closely with you to challenge, support and encourage your child to realise and achieve their aspirations.
Mrs Laurel Davies
Pennaeth / Head