Sefydlwyd Ysgol Maes y Gwendraeth yn 2013 ac mae’r ysgol yn gymuned Gymreig sydd yn seilio ei gwaith ar y gwerthoedd sylfaenol o ofal, parch tuag at ein gilydd a gonestrwydd. Ffocws yr ysgol yw cyflawni potensial pob disgybl a gwneir pob ymdrech i gyrraedd y safonau uchaf o ran cyrhaeddiad academaidd pob disgybl. Ar y seiliau cadarn hyn gwneir pob ymdrech i ymestyn gorwelion bob un o’i disgyblion i’w galluogi i fod yn ddinasyddion cyfrifol a gweithredol.
Y Gymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a chyfrwng y rhan fwyaf o’r gwersi. Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol.
Conglfaen arall o waith a chennad yr ysgol yw datblygiad moesol, ysbrydol a chorfforol ei disgyblion. Arddelir y safonau ymddygiad uchaf ac adlewyrchir hyn yn ymddygiad da’r disgyblion ar hyd y blynyddoedd. Mae gan yr ysgol ddisgwyliadau clir ac uchel a chefnogir hyn gan ddisgyblion a theuluoedd yr ysgol. Mae gwaith dyngarol yn elfen amlwg o waith a thraddodiad Maes y Gwendraeth.
Ar y sylfeini cadarn hyn, paratoa’r ysgol ei phobl ifanc ar gyfer cymryd eu lle yn eu cymunedau boed y rheini yma yn Sir Gar neu ym mhendraw’r byd.
Mae pob disgybl unigol yn bwysig ym Maes y Gwendraeth. Datblygiad cyflawn pob unigolyn yw canolbwynt gwaith yr ysgol.
Wyn Evans
Pennaeth
Mae Canolfan yr Eithin yn ddarpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag SLD, PMLD a / neu Awtistiaeth.
Rydym yma i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol drwy hyrwyddo cyflawniad a llesiant i bawb.
Mae'r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd yng Nghymru yn newid. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system fwy hyblyg ac ymatebol o ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau ac mae'n ymdrechu i ddarparu system addysg gwbl gynhwysol ar gyfer dysgwyr Cymru. Bydd y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yn cael ei chyflwyno yn raddolo fis Medi 2021.