NEW

Rheolwr Busnes Ysgol - Ysgol Harri Tudur

Cyflogwr
Ysgol Harri Tudur/Henry Tudor School
Lleoliad
Pembroke, Pembrokeshire
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Gradd 9 - £40,476 - £44,711
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
16th Mehefin 2025 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1488299
Cyfeirnod y swydd
REQAA6395
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1488299

Rheolwr Busnes yr Ysgol

Gradd 9 parhaol

SCP 31 i SCP 35

£40,476 - £44,711

Rydym yn chwilio am reolwr busnes ysgol rhagorol ac o’r radd flaenaf. Mae ein rheolwr busnes ysgol presennol yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn ysgol hon. Byddwch yn unigolyn cadarn ond teg, dynamig, uchelgeisiol a brwdfrydig gyda set sgiliau gweithredol.

Mae Ysgol Harri Tudur yn ysgol gyffrous a chroesawgar i weithio ynddi. Mae ein hysgol yn parhau ar ei thaith gwelliant er mwyn ceisio rhagoriaeth, yn dilyn ein hadroddiad cadarnhaol gan Estyn ym mis Ionawr 2022.

Rydym yn croesawu’n gynnes ymgeiswyr dawnus, uchelgeisiol, egnïol a gwydn sydd nid yn unig yn dymuno ymuno â ni ar y daith honno, ond sy’n gallu ac yn barod i wneud cyfraniad gwerthfawr at ei llwyddiant yn y dyfodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Darparu gweledigaeth strategol ac arweinyddiaeth ar gyfer pob agwedd ar weinyddiaeth yr ysgol, gan gynnwys cyllideb a chyllid, cynhyrchu incwm, rheolaeth cyfleuster a phersonél.
  • Cynorthwyo’r pennaeth wrth weithredu, cynnal a datblygu gweithdrefnau a systemau ariannol yr ysgol, gan gynnwys cysylltu â’r awdurdod lleol ac asiantaethau allanol.
  • Cynorthwyo’r pennaeth i arfer cyfrifoldeb am bob agwedd ar safle ac adeiladau’r ysgol, gan gynnwys eu cynnal a’u cadw, eu datblygu, eu caffael a’u defnyddio’n effeithlon.
  • Gweithredu fel prif staff cymorth proffesiynol yr ysgol ac fel aelod o’r uwch-dîm arwain, gyda chyfrifoldeb am gyflwyno’r holl wasanaethau gweinyddol.
  • Cyflawni dyletswyddau clerc y corff llywodraethu.
  • Arwain gyda diogelu data, GDPR, iechyd a diogelwch, cynllunio prosiectau, codi arian a datblygu incwm, cynllunio a darparu systemau rheoli a gwybodaeth, rheoli asedau ac asesiadau risg.

Byddai’r swydd hon yn addas i Reolwr Busnes Ysgol profiadol/presennol, ond croesewir ceisiadau’n gynnes gan unigolion sy’n credu bod ganddynt sgiliau cryf ac perthnasol, agwedd gadarnhaol, addasrwydd a phrofiad.

Am ymweliadau anffurfiol â’r ysgol a thrafodaeth am y rôl, cysylltwch â

Mr Nick Makin, Rheolwr Busnes Ysgol

Ewch i’n gwefan

Rydym yn gresynu na fydd modd darparu adborth i geisiadau nad ydynt yn llwyddiannus.

Byddai’r swydd hon yn addas ar gyfer rheolwr busnes ysgol profiadol / presennol ond croesewir ceisiadau gan unigolion sy’n credu bod ganddynt sgiliau a phrofiad cryf a pherthnasol.

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Harri Tudur/Henry Tudor School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Harri Tudur/Henry Tudor School

Ysgol Harri Tudur/Henry Tudor School

Part of Pembrokeshire Local Authority

Pembrokeshire Local Authority