NEW

Athro\/Athrawes - Absenoldeb Mamolaeth - Ysgol Gynradd Cefn Cribwr

Cyflogwr
Cefn Cribwr Primary
Lleoliad
Cefn Cribwr, Bridgend
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
13th Mai 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1547884
Cyfeirnod y swydd
18580
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1547884
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Cefn Cribwr yn dymuno penodi athro/athrawes ragorol gyda phrofiad o addysgu yn PS 2 a/neu PS 3. Mae'r swydd yn amser llawn mewn dosbarth prif ffrwd ac i gwmpasu hyd Absenoldeb Mamolaeth, gan ddechrau ym mis Medi 2026

Mae Ysgol Gynradd Cefn Cribwr yn ganolfan ddysgu fywiog; mae gennym ddisgwyliadau uchel ac rydym yn ymdrechu am ragoriaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llawn cymhelliant i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm sefydledig o weithwyr proffesiynol ac yn barod i gyfrannu at bob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Mae angen i ymgeiswyr fod yn ymarferwyr hyderus yn yr ystafell ddosbarth sy'n dangos dealltwriaeth glir o addysgeg effeithiol gan sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos angerdd dros ddysgu. Bydd angen i'r athro/athrawes a benodir ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 13 Mai 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Mai 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 8 Mehefin 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Cefn Cribwr Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.