Ein Lleoliad
Swavesey
Cambs
CB24 4RS
Y Barri, Vale of Glamorgan
24th Ebrill 2024
M2-UPS3 + CAD2a
Amser Llawn
Athro Cynradd ac Arweinydd Profiadau Allgyrsiol, Diwylliant a Chysylltiadau Cymunedol Ebrill 2024 Swydd: Athro Cynradd ac Arweinydd Profiadau Allgyrsiol, Diwylliant a Chysylltiada ...
‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’ yw ein harwyddair ac yn wir mae’n cwmpasu popeth yr ydym yn ei gredu ynddo yn yr ysgol hon. Fel ysgol, rydym yn addo y bydd pob plentyn sy’n mynychu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn cael gofal o’r radd flaenaf a’r ddarpariaeth orau posib o ran addysg a chyfleoedd ehangach i gyflawni eu dyheadau ac i ddiwallu eu hanghenion unigol.
Os ydych chi’n chwilio am eich swydd nesaf ym myd addysg, cysylltwch â ni. Byddwch chi’n gweithio i gyflogwr gwych ac yn rhan o dîm cyfeillgar a chymwynasgar. Mae diddordeb gennym bob amser glywed gan weithwyr proffesiynol addysg brwdfrydig, ymroddedig – felly anfonwch eich CV atom nawr drwy ein Cronfa Dalent a nodi pa fath o rôl rydych chi’n chwilio amdani. Drwy ymuno â’n Cronfa Dalent byddwn ni’n gwybod bod gennych ddiddordeb gweithio yma pan fydd y swydd gywir yn codi.
Nod yr ysgol yw cynnig addysg Gymraeg gyflawn i bob disgybl a thrwy hynny gwneud yn siŵr fod pawb yn cyrraedd y safonau uchaf posib yn ôl eu gallu a’u talentau. Fe wnawn ni hyn mewn awyrgylch sydd yn cynnal ac yn parchu disgyblion fel unigolion.
Mae’n rhaid i bob disgybl gytuno i ddilyn Siartr Ymddygiad a Rheolau’r ysgol.
“Mae’r gofal ac arweiniad arbennig y mae’r ysgol yn eu darparu yn cydfynd yn llwyr ag arwyddair yr ysgol, sef “Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd”.”
ESTYN 2019
Ein Lleoliad
Swavesey
Cambs
CB24 4RS