Swydd: Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 4
Pwynt/ Graddfa Cyflog: Gradd 6 SCP 14-19
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn Amser (32.5awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn)
Hysbyseb: 22ain o Fai 2025
Dyddiad Cau: 5ed o Fehefin 2025 – 9yb
Swydd i ddechrau: Medi 2025
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Os ydych yn chwilio am gyfle i weithio mewn rôl lle mae pob diwrnod yn hollol wahanol gall hyn fod y swydd i chi! Mae gennym gyfle i unigolyn talentog, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno ag Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn ein Hadran Cynnal Dysgu. Mae hyn yn rhan o ymgyrch recriwtio felly sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich cais mor gynted ac sydd phosibl fel nad ydych yn colli’r cyfle!
Yn y rôl yma byddwch yn gweithio i gefnogi myfyrwyr ar draws holl gwricwlwm yr ysgol ond yn benodol yn gyfrifol am gynllunio a darparu ymeraethau i gefnogi disgyblion.
Yn cyd-weithio gyda’r CADY, Dirprwy CADY ac athrawon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu profiad dysgu arbennig i’n myfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu anableddau.
Dyma gyfle cyffrous i gynnig cefnogaeth tu allan i’r dosbarth, ac mewn rhai amgylchiadau yn y dosbarth, i ddysgwyr gydag amrywiaeth o anghenion dysgu. Bydd natur y gefnogaeth yn gallu amrywio o gefnogi grwpiau bach i ddatblygu gwytnwch, sgiliau rhyngberthnasol, sgiliau llythrennedd a rhifedd i gefnogi myfyrwyr gydag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth un i un. Mae’r gallu i ddangos empathi tuag at fyfyrwyr sydd ag anawsterau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol.
Yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus y profiad yr wybodaeth a’r ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddulliau i gefnogi dysgwyr. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu’r sgiliau yma.
Bydd gan y person agwedd bositif a phenderfynol. Byddant yn hyblyg wrth weithio gyda gwahanol fyfyrwyr a staff, yn barod am heriau newydd ac yn dangos yr ysfa i ddatblygu’n bersonol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg o safon dda, blaengaredd a’r gallu i gyfathrebu’n dda gyda staff dysgu a myfyrwyr. Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio naill a’i llawn (32.5 awr) neu rhan amser. Nodwch y nifer o oriau yr ydych am weithio yn eich datganiad ategol os gwelwch yn dda.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.