ENDING SOON

Goruchwylydd Safle

Cyflogwr
Caldicot School
Lleoliad
Caldicot, Monmouthshire
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
£33,119.00 - £35,570.00
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
23rd Medi 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1573951
Cyfeirnod y swydd
L40661175
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1573951

Mae Llywodraethwyr Ysgol Cil-y-coed yn dymuno penodi dau unigolyn brwdfrydig ac 

ymroddedig i ymuno â’n tîm Safle a Gweithrediadau. 

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus sgiliau rhagorol i reoli amser; byddant yn rhagweithiol, 

trefnus a gydag agwedd hyblyg ac yn medru gweithio ar eu cymhelliant eu hunain. Anelwn 

weithio ar y cyd o fewn y clwstwr, felly mae hyblygrwydd yn allweddol. 

Bydd y swydd yn cynnwys sicrhau y caiff cyfleusterau’r safle eu cynnal a’u cadw i hyrwyddo 

amgylchedd diogel ac iach ar gyfer disgyblion, staff, contractwyr ac ymwelwyr arall i’r ysgol ar 

bob adeg, fydd yn cynnwys gweithredu fel deiliad allweddol, gwiriadau bob mis a phob tymor, 

darparu gwasanaeth gofalwr, ymgymryd â thasgau mân waith trwsio, cynnal a chadw ac 

addurno. 

Gall fod angen peth gweithio ar benwythnosau a byddai’r gallu i yrru cerbyd yn fanteisiol. 

Mae’r swydd am 37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Yr oriau gwaith fydd dydd Llun – 

dydd Gwener (bydd patrwm shifftiau yn gymysgedd o 6:30am – 14:30pm; 8:00am – 16:00pm 

neu 11:00am – 7.00pm*). Bydd angen bod yn hyblyg gydag oriau gyda’r nos i gefnogi gydag 

archebion a nosweithiau rhieni a digwyddiadau. 

Mae’r prif ddyletswyddau yn cynnwys: 

• Gweithredu fel deiliad allwedd a sicrhau bod yr adeiladau a’r safle yn ddiogel 

• Ymgymryd â thasgau mân waith trwsio a chynnal a chadw 

• Cefnogi rhaglen gynnal a chadw ymatebol ac wedi’i gynllunio 

• Sicrhau fod yr ysgol yn cyflawni cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoliadau ar wasanaeth a 

chynnal a chadw offer a gwasanaethau e.e. nwy, asbestos, legionella ac yn y blaen; 

• Cyflawni gwiriadau cydymffurfiaeth dyddiol, wythnosol a misol ar gyfleusterau 

• Deall pwysigrwydd asesu risg a sicrhau y caiff asesiadau risg eu cynnal 

• Goruchwylio contractwyr cynnal a chadw ar y safle 

• Cyflawni dyletswyddau yn unol â rheoliadau Iechyd a Diogelwch a COSHH 

• Cynnal gwiriadau Iechyd a Diogelwch rheolaidd ar adeiladau, tiroedd, gosodion a 

ffitiadau (yn cynnwys cydymffurfiaeth gyda rheoliadau diogelwch tân) 

• Darparu gwasanaeth porthor ar y safle, yn cynnwys celfi ac offer 

• Casglu cynnull a rheoli gwastraff safle yn cynnwys unrhyw finiau allanol 

• Cadw pob ardal, maes parcio a llwybrau o amgylch y safle yn daclus, heb sbwriel, diogel 

a chlir, a chyflwyno’r ysgol yn y ffordd orau. 

Nid yw’r rhestr hon o ddyletswyddau yn gynhwysfawr. 

Cysylltwch â Rheolwr Busnes yr Ysgol i gael mwy o wybodaeth os gwelwch yn dda. Mae’r 

ffurflen gais a mwy o wybodaeth ar y swydd ar gael o wefan Cyngor Sir Fynwy.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Caldicot School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.