Bydd deiliad y swydd yn:
· Gweithredu dull cyfathrebu cynhwysol, sy'n cael ei yrru gan werthoedd, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn wybodus, yn cael eu clywed a'u grymuso – gydag un llais clir a chyson
· Gweithio ar wella'r ffordd rydym yn casglu, gwrando ar, ac yn gweithredu ar adborth gan gydweithwyr
· Datblygu mwy o gyfranogiad cydweithwyr wrth lunio ein strategaeth a'n cyfeiriad yn y dyfodol
· Adeiladu ar ein hethos o bartneriaeth gymdeithasol, gan gydweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau
Gweler Disgrifiad Swydd/Manyleb Person am fanylion llawn
Datganiad Diogelu:
Mae Coleg y Cymoedd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.