Ysgol Eirias
Rôl: Athro Cymraeg
Cytundeb: Swydd: Llawn amser mamolaeth (Blwyddyn yn unig)
Dyddiad Cychwyn: Ionawr 5 2026
Mae’r Gyfadran Gymraeg yn edrych i benodi aelod brwdfrydig o staff sydd â’r ysfa i gynnal safonau arbennig mae hi’n parhau i’w cyrraedd. Hoffen ni i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar wybodaeth bynciol cryf, a phrofiad o addysgu ystod eang o oedrannau a galluoedd ar draws Cyfnod Allweddol 3, 4 a 5. Hoffen ni groesawu aelod dynamig i ymuno â’r gyfadran i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y Cwricwlwm.
Bydd y swydd llawn amser, dros dro yn cychwyn ar Ionawr 5fed
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn arbenigwyr Cymraeg cymwys gydag angerdd at yr iaith ac at ddiwylliant Cymreig. Bydd yr ymgeiswyr hefyd yn meddu ar frwdfrydedd wrth weithio gyda phobl ifanc chwilfrydig. Mae’r gyfadran Gymraeg yn addysgu Cwricwlwm i Gymru ym mlwyddyn 7, 8 a 9, TGAU Cymraeg ail iaith i Gyfnod Allweddol 4 a chwrs UG a Lefel A yng Nghyfnod Allweddol 5 ble yr ydym yn denu nifer iach o ddisgyblion bob blwyddyn.
Dyddiad cau’r ceisiadau ydy Dydd Llun, Tachwedd 3ydd.
Nodwch os gwelwch yn dda ein bod yn derbyn ceisiadau gan athrawon cymwysedig sydd wedi eu hyfforddi mewn cyfnodau gwahanol i'r cyfnod uwchradd.
Mae Ysgol Eirias yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.