SWYDDI HYBLYG RHAN AMSER
Myfyrwyr Israddedigion Gwyddoniaeth; Mathemateg; Technoleg; Ieithoedd; Cymraeg; Saesneg a Celfyddydau Perfformio
Cynorthwy-ydd Dysgu Gradd 4
I ddechrau cyn gynted â phosib
Ar ôl derbyn eich amserlen, beth am ymuno a ni ar gyfnodau rhydd i weithio ochr yn ochr â’n staff profiadol i wella cyfleoedd i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg?
Byddwch yn derbyn cyflog rheolaidd, profiad cyfoethog o fewn addysg ac yn cyfrannu yn ymarferol i helpu disgyblion o fewn ysgolion lleol y ddinas
Dyma gyfleoedd rhagorol i ddatblygu sgiliau a gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol.
Edrychwn am israddedigion neu raddedigion ymchwil sy’n barod i weithio rhan amser yn mentora a chefnogi disgyblion. Byddai hyn yn golygu gweithio ambell ddydd llawn neu sesiynau bore / prynhawn ar amserlen hyblyg iawn yn ôl argaeledd amserlen pob ymgeisydd.
Bydd y gwaith yn golygu gweithio fel mentor i wella sgiliau iaith neu rhif neu ar raglenni sy’n gwella lles emosiynol disgyblion. Gall hefyd olygu cynnal clwb neu weithgaredd i ddisgyblion ar ôl ysgol, yn cynorthwyo i hyfforddi chwaraeon neu arwain côr! Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm arbenigol o fewn un o’n hysgolion, yn derbyn hyfforddiant ac arweiniad yn eich gwaith, ac yn derbyn profiad cyfoethog i lwybr gyrfa o fewn byd addysg.
Mae’r swyddi yn agored i fyfyrwyr israddedig neu ôl-radd cyfrwng Cymraeg ond byddwn â diddordeb arbennig o fewn pynciau Gwyddoniaeth; Mathemateg; Technoleg; Ieithoedd, Cymraeg, Saesneg a Celfyddydau Perfformio.
Mae ysgolion Bro Edern, Glantaf a Plasmawr wedi ymrwymo yn gadarn at bolisïau diogelu ac amddiffyn plant ac mae ein holl weithlu yn ymrwymo i’r egwyddor craidd hwn. Bydd y swyddi yn amodol ar wiriad diogelu llawn.
I ymgeisio, gallwch anfon llythyr cais byr a CV syml yn nodi eich profiad a’ch diddordeb at:
Mrs Catrin Arnopp Cydlynydd y Prosiect Cynyddu Capasiti, Ysgol Glantaf
Swyddi rhagorol rhan-amser drwy gyfrwng y Gymraeg
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.