Anogwr Dysgu Chweched Dosbarth
(cytundeb blwyddyn yn y lle cyntaf)
Gradd 5 p11-19 £28,142 -£32,061 pro rata
(pro rata 32.5 awr yr wythnos / 41 wythnos)
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser Anogwr Dysgu o fewn tim cynnydd a lles ein Chweched Dosbarth. Dyma gyfle arbennig i weithio gyda’n pobl ifanc i’w cynnal, eu cynghori a’u harwain i ymgartrefu o fewn y Chweched ac i dyfu’n arweinwyr cadarn o fewn cymuned yr ysgol. Prif nod eich swydd yn syml, fydd cefnogi disgyblion Glantaf i aros o fewn addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu hastudiaeth ôl16 ac i’w cefnogi ymhellach drwy gyfnod fel myfyrwyr hŷn o fewn cymuned yr ysgol.
Gan fod dalgylch Glantaf yn adlewyrchiad eang o gymunedau’r ddinas, rydym yn frwd i adeiladu ymhellach i sicrhau bod astudio o fewn y Chweched yn gynrychiolaeth llawn o gyfoeth ac amrywiaeth ein dalgylch. Rydym am sicrhau bod safonau uchel ein darpariaeth yn ymestyn i sicrhau bod ein Chweched Dosbarth yn gynhwysol, perthnasol a Chymreig i fyfyrwyr Glantaf i’r dyfodol. Byddwch yn gweithio o fewn tim o staff sy’n ymrwymiedig i sicrhau ystod eang o gyrsiau a darpariaeth er mwyn sicrhau bod disgyblion a dewis atyniadol a chyffrous i aros o fewn addysg cyfrwng Cymraeg i lwybrau dysgu ôl16.
Byddwch yn cynorthwyo myfyrwyr i sicrhau fod eu mynediad at addysg yn rhwydd ac yn llifo yn fwy hwylus gyda chymorth oedolyn ac arweiniad unigol. Mae rhai myfyrwyr â heriau astudio annibynnol a threfnu gwaith, eraill angen cyngor o ran dewis trywydd a llwybr gyrfaol, tra bod rhai yn elwa o gymorth ymarferol neu emosiynol. Wrth i’n pobl ifanc wynebu heriau sylweddol, edrychwn am unigolyn sy’n medru ysbrydoli, cymell a chefnogi unigolion i oresgyn rhwystrau er mwyn datblygu’n ddinasyddion aeddfed a dysgwyr annibynnol.
Rhan allweddol o’ch gwaith fydd pontio’r cyfnod rhwng astudio TGAU yn Blwyddyn 11 a gofynion gwahanol astudio yn y Chweched. Byddwch yn medru estyn cymorth a chynhaliaeth i ddisgyblion yn Bl11 gyda dewis pynciau, gyda her adolygu a gwaith paratoi at arholiadau a gan eu hanwytho wedyn o fewn Chweched Glantaf.
Byddwch yn gweithio yn uniongyrchol gyda myfyrwyr ac yn agos gyda Arweinwyr Cynnydd a Lles y Chweched Dosbarth. Byddwch yn ddolen gyswllt bwysig rhwng tiwtoriaid personol, athrawon pwnc o fewn yr adrannau a gyda chartrefi y myfyrwyr eu hunain. Byddwch yn drefnus ac yn gallu gweithredu systemau gweinyddol yn hwylus gyda cheisiadau Prifysgol, sysemau tracio cynnydd a monitor phresenoldeb. Byddwch yn angerddol dros sicrhau’r gynhaliaeth orau i ddisgyblion, yn frwd dros y Gymraeg ac yn fodel rôl allweddol i fyfyrwyr wrth iddynt fwynhau bywyd yn Nglantaf.
Wrth ymuno â ni, byddwch yn ymuno â thim profiadol estynedig sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion o fewn cymuned Glantaf. Byddwch yn gwerthfawrogi gweithio’n agos gyda myfyrwyr sydd yn astudio amrywiaeth eang o bynciau o fewn y cwricwlwm, ac sydd ar adegau angen cymorth gyda sgiliau astudio, rheoli amser neu weithio’n annibynnol.
Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda pobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolion dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd pobl ifanc. Mae angen brwdfrydedd a gweledigaeth i arwain pobl ifanc ac edrychwn am unigolyn sydd a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.
Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw. Edrychwn am unigolion fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.
Os hoffech fwy o fanylion am y swyddi rhain neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swyddi rhain drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Mercher 13 Awst 2026
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2026
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.