ENDING SOON

Swyddog Presenoldeb

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Lleoliad
Ystum Taf, Cardiff
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
Graddfa 5 Pwyntiau 11-19 pro rata
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
2nd Mehefin 2025 11:59 AM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1486417
Cyfeirnod y swydd
Eteach/Swyddog Presenoldeb2025
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: Blwyddyn i ddechrau
  • ID swydd: 1486417

Swyddog Presenoldeb

Cyflog: Graddfa 5 Pwyntiau 11-19 pro rata

Mae’r ysgol yn chwilio am unigolyn brwd ac ymroddgar i weithio ar draws Clwstwr Ysgolion dalgylch Glantaf fel swyddog presenoldeb, sy’n cynnwys yr ysgol gyfun ei hun ynghyd â saith ysgol gynradd Gymraeg. Oriau :18.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.

  Rhaid i’r ymgeiswyr:

• feddu ar sgiliau trefnu a rheoli ardderchog

• meddu ar ymwybyddiaeth o faterion addysgol a dealltwriaeth o bwysigrwydd presenoldeb uchel

• meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg

• meddu ar sgiliau TGCh da iawn

• meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog

• bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio â holl randdeiliaid y clwstwr, ynghyd â mireinio gweithdrefnau addas er mwyn hyrwyddo presenoldeb uchel ac er mwyn diwallu unrhyw anghenion.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â’r Pennaeth Mr Matthew Evans.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.