Swyddog Presenoldeb
Cyflog: Graddfa 5 Pwyntiau 11-19 pro rata
Mae’r ysgol yn chwilio am unigolyn brwd ac ymroddgar i weithio ar draws Clwstwr Ysgolion dalgylch Glantaf fel swyddog presenoldeb, sy’n cynnwys yr ysgol gyfun ei hun ynghyd â saith ysgol gynradd Gymraeg.
Oriau :18.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Rhaid i’r ymgeiswyr:
• feddu ar sgiliau trefnu a rheoli ardderchog
• meddu ar ymwybyddiaeth o faterion addysgol a dealltwriaeth o bwysigrwydd presenoldeb uchel
• meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
• meddu ar sgiliau TGCh da iawn
• meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog
• bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio â holl randdeiliaid y clwstwr, ynghyd â mireinio gweithdrefnau addas er mwyn hyrwyddo presenoldeb uchel ac er mwyn diwallu unrhyw anghenion.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â’r Pennaeth Mr Matthew Evans.
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.