Athro a Chyfrifoldeb Addysgu a Dysgu 2 – Ysgol Wirfoddol a Reolir Gelliswick

Cyflogwr
Gelliswick Church in Wales VC School
Lleoliad
Milford Haven, Pembrokeshire
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
£33,731 - £51,942 + TLR 2A £3,590
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
20th Ebrill 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1542675
Cyfeirnod y swydd
REQAA7132
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1542675

Athro â Chyfrifoldeb Addysgu a Dysgu 2 – Ysgol Wirfoddol a Reolir Gelliswick

Prif raddfa gyflog/uwch raddfa gyflog + cyfrifoldeb addysgu a dysgu 2; amser llawn parhaol

Mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick yn ceisio penodi athro llawn amser â chyfrifoldeb addysgu a dysgu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymarferydd ymroddedig, brwdfrydig, a myfyriol i ymuno â ni mewn cyfnod o ddatblygiad sylweddol, wrth i ni wireddu ein gweledigaeth o gymuned ddysgu amrywiol a chynhwysol. Cymuned ddysgu sy'n gwerthfawrogi pawb, yn darparu gobaith, ac yn cydweithio i wneud dyfodol pob plentyn yn fwy disglair nag yr oedd yn ei feddwl oedd yn bosibl.

Mae Ysgol Gelliswick yn ysgol gyfeillgar a chroesawgar, sydd wedi ymrwymo i ofal rhagorol i ddisgyblion a datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i staff. Byddwch yn elwa ar unwaith o ymuno â thîm ymroddedig a chydweithredol sy'n gweithio mewn adeilad newydd sbon a agorwyd ym mis Ionawr 2018. Mae gan yr ysgol tua 458 o ddisgyblion, gan gynnwys 25 o ddisgyblion ag anghenion cymhleth sy'n mynychu ein canolfan adnoddau dysgu sydd â llawer o adnoddau.

Bydd deiliad y swydd cyfrifoldeb addysgu a dysgu yn arwain addysgu a dysgu ar draws Blynyddoedd 3 i 6, a bydd ganddo gyfrifoldeb dros gynnydd disgyblion, addysgeg, a’r Cwricwlwm i Gymru, gan gydweithio'n agos â'r uwch-dîm arwain. Rydym yn chwilio am ymarferydd blaengar ac arloesol sy'n frwd dros ddatblygiadau addysgol cyfredol yng Nghymru ac yn awyddus i drosi'r syniadau hyn yn addysgu ymarferol.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n bodloni manyleb y person ac sy'n bodloni'r canlynol:

• Yn ymarferydd dosbarth rhagorol gyda hanes o lwyddiannau y gellir eu dangos.

• Yn angerddol ac yn wybodus am ddysgu a datblygiad plant, gan sicrhau'r cynnydd gorau posibl i bob dysgwr

• Yn meddu ar ddealltwriaeth gref o addysgeg ac yn ymwneud â'r pedwar diben a'r profiadau dysgu sy'n ganolog i’r gwaith o ddiwygio'r cwricwlwm

• Yn gallu modelu arfer effeithiol ac yn meddu ar y sgiliau a'r profiad i allu arwain tîm bach

Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i unigolyn:

• Sydd wedi ymrwymo i degwch a safonau uchel drwy addysgeg a’r cwricwlwm

• A fyddai’n croesawu’r cyfle i arwain datblygiadau mewn addysgu a dysgu ar draws yr ysgol

Mae’r swydd hon yn benagored, i ddechrau ar 1 Medi 2026.

Os hoffech drafod y swydd neu ymweld â’r ysgol, cysylltwch â Leanne Prevel, y Pennaeth

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 20 Ebrill 2026.

Bydd rhestr fer yn cael ei llunio ddydd Mercher, 22 Ebrill 2026.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 7 Mai 2026.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Safeguarding and protecting children and adults at risk is a high priority for Pembrokeshire County Council. We aim to support vulnerable children and adults at risk to ensure they are as safe as they can possibly be. We are committed to ensuring their safety and will take action to safeguard their well-being. The Council’s Corporate Safeguarding Policy provides a framework for every member of staff and Service within the Council, setting out responsibilities in relation to safeguarding and protecting children and adults at risk as well as the methods by which the Council will be assured that it is fulfilling its duties.

This policy applies to all Council employees and workforce, councillors, volunteers and also service providers that are commissioned by the Council. Safeguarding is everyone's business whether they work for, or on behalf of the Council.

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles.Mae Polisi Corfforaethol Diogelu'r Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau lle caiff y Cyngor ei sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn gymwys i holl weithwyr y Cyngor a'r gweithlu, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor.Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Gelliswick Church in Wales VC School

Gelliswick Church in Wales VC School