Cardiff, Cardiff
29th Ebrill 2024
£30,619.63-£47,330.98 (pro rata)
Rhan-amser
Athro Drama UG/Safon Uwch a BTEC Celfyddydau Perfformio Lefel 3 Galwedigaethol Parhaol, Rhan amser (3 diwrnod yr wythnos) Coleg Chweched Dosbarth poblogaidd a gor-danysgrifedig yw ...
Cardiff, Cardiff
29th Ebrill 2024
£30,619.63 - £47,330.98 dependent on experience.
Amser Llawn
Coleg Chweched Dosbarth poblogaidd a gor-danysgrifedig yw Coleg Dewi Sant, sy’n darparu addysg o safon uchel i fyfyrwyr 16-19 mlwydd oed o fewn Caerdydd a Bro Morgannwg. Yn ein ha ...
Sefydlwyd Coleg Catholig Dewi Sant yn 1987 gan Archesgobaeth Caerdydd. Mae’n Goleg Chweched Dosbarth ar un campws yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd. Mae’r Coleg yn darparu addysg ar gyfer 1,400 dysgwr, gyda bron pob un dysgwr yn astudio’n llawn amser, a phob un rhwng 16-19 oed.
Mae’r Coleg yn cynnig 30 cwrs Safon Uwch i ddysgwyr, ynghyd â sawl gwrs galwedigaethol Lefel 3 ar draws wyth pwnc. Y meysydd pynciol hynny sydd â’r gyfran uchaf o ddarpariaeth ydy: gwyddoniaeth a mathemateg; gweinyddiaeth fusnes a’r gyfraith; y celfyddydau, cyfryngau, ac argraffu; a’r gwyddorau cymdeithasol. Pob blwyddyn, symudir dros bedwar can dysgwr ymlaen i brifysgol, gyda thua 40% yn parhau i brifysgol Grŵp Russell. Yn ein harolygiad Estyn yn 2019, raddiwyd y Coleg yn ‘rhagorol’ ar gyfer safonau’r dysgwyr, ac yn ‘rhagorol’ ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth.
Mae’r Coleg yn recriwtio dysgwyr o ysgolion eang, sy’n cynnwys pedair ysgol uwchradd Gatholig yr ardal. Ceir dysgwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol, ethnig, a chrefyddol eang sy’n mynychu’r Coleg. Daw 34% o’n dysgwyr o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, fel y’u diffinnir gan gwintel cyntaf mynegai amddifadedd Cymru. Mae 36% o boblogaeth y Coleg yn groenddu, Asiaidd, neu’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol.