Athro Drama UG/Safon Uwch a BTEC Celfyddydau Perfformio Lefel 3 Galwedigaethol

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

Athro Drama UG/Safon Uwch a BTEC Celfyddydau Perfformio Lefel 3 Galwedigaethol

Ysgol
St David's Catholic Sixth Form College
Lleoliad
Cardiff, Cardiff
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
£30,619.63-£47,330.98 (pro rata)
Dyddiad cychwyn
21st August 2024
Yn dod i ben
13th Mai 2024 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1418247
Dyddiad cychwyn
21st August 2024
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1418247

Athro Drama UG/Safon Uwch a BTEC Celfyddydau Perfformio Lefel 3 Galwedigaethol

Parhaol, Rhan amser (3 diwrnod yr wythnos)

Coleg Chweched Dosbarth poblogaidd a gor-danysgrifedig yw Coleg Dewi Sant, sy’n darparu addysg o safon uchel i fyfyrwyr 16-19 mlwydd oed o fewn Caerdydd a Bro Morgannwg. Yn ein harolygiad Estyn yn 2019, cawsom radd ‘rhagorol’ ym maes arolygu un ar gyfer safonau, ac ym maes arolygu pump ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mae llywodraethwyr yn ceisio penodi athro UG/Safon Uwch Drama a BTEC Celfyddydau Perfformio Lefel 3 Galwedigaethol hynod frwdfrydig ar gyfer mis Medi 2024. Rydym yn chwilio am athro a fydd yn hyrwyddo ymarferion diddorol, arloesol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei lawn botensial. Dylai athrawon fod â’r gallu i baratoi myfyrwyr ôl-16 ar gyfer gofynion astudiaeth neu gyflogaeth yn y dyfodol. Gwahoddir ceisiadau gan ANG ac athrawon profiadol.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd gwiriad Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd manylach yn cael ei gynnal. Rydym yn gyflogwr Cyfle Cyfartal gyda darpariaeth DPP rhagorol.

Cynigir y swydd fel rôl ran amser ar sail barhaol. Mae'n denu cyflog o rhwng £30,619.63 a £47,330.98 yn dibynnu ar brofiad.

Disgwylir i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad addysgu microwers fel rhan o’r broses ddewis.

Mae buddion yn cynnwys darpariaeth datblygiad staff rhagorol, ffreutur ar y safle a champfa. Parcio rhad ac am ddim ar y safle. Lleoliad gwych.

Mae’r Coleg yn gweithredu blwyddyn academaidd Coleg Chweched Dosbarth, ac felly mae Tymor yr Hydref yn dechrau ddiwedd mis Awst i ganiatáu ar gyfer gweithgareddau cofrestru.

Byddwch yn ymwybodol bod Coleg Dewi Sant yn cadw’r hawl i gau unrhyw swydd wag yn gynharach na’r dyddiad a restrwyd os byddwn wedi derbyn nifer uchel o geisiadau. Os hoffech gael eich ystyried, byddem yn argymell cwblhau’r ffurflen gais cyn gynted â phosib.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae St David's Catholic College yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
St David's Catholic Sixth Form College

St David's Catholic Sixth Form College