Ymddiheuriadau, nid ydym yn recriwtio ar hyn o bryd.
Byddem wrth ein bodd petaech am ymuno â'n Cronfa Dalent fel y gallwn gysylltu â chi pan fydd y swydd wag berthnasol yn codi.
Ysgol uwchradd sy'n dysgu'r mwyafrif helaeth o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yw Bro Myrddin. Daw'r disgyblion atom o dref hynafol Caerfyrddin ac o ardaloedd cefn gwlad prydferth ochr orllewinol a gogleddol y Sir.
Ymfalchïwn yn safonau academaidd cyson uchel yr ysgol, ac mae ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn hynod o bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd.
Mae cyfrannu at ddiwylliant Cymreig a Chymraeg trwy lu o weithgareddau gan gynnwys gwaith y Pwyllgor Cymreictod Project4Cymraeg, yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn allweddol bwysig, fel mae ein cyfraniad i'r gymuned leol, trwy waith elusennol, gwaith gwirfoddol ac amryw gysylltiadau eraill.
Nod yr Ysgol
Fel ysgol fro, y mae Bro Myrddin yn cynnig addysg sy’n ceisio ateb anghenion yr unigolyn mewn awyrgylch cefnogol a hollol Gymreig. Cynigir yr un cyfle cyfartal i bob disgybl ddatblygu hyd eithaf ei allu yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, yn feddyliol ac yn gorfforol. (Polisi Cyfle Cyfartal ar gael yn yr ysgol.)
Amcanion
• Creu cymdeithas fyw lle y gwerthfawrogir gwerthoedd moesol ac ysbrydol a lle y pwysleisir rhinweddau megis cyfiawnder, gonestrwydd, ymddiriedaeth, goddefgarwch ac ymdeimlad o ddyletswydd.
• Rhoi cyfle i bob disgybl feistroli’r grefft o gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, gan bwysleisio’r Gymraeg fel iaith naturiol yr ysgol.• Cynorthwyo’r disgybl i ddatblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith a fydd yn ei alluogi i weithio fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
•Paratoi pob disgybl i fyw fel aelod cyfrifol a gwerthfawr o’r gymdeithas, i ddatblygu perthynas gadarnhaol gydag eraill ac i ddatblygu hunan-barch a pharch at bobl, eiddo a’r amgylchedd.
• Cynorthwyo’r disgybl i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru ac i fedru cyfrannu at gymdeithas amlieithog yng Nghymru, Ewrop a’r byd.
• Sicrhau cyfleoedd priodol i holl aelodau staff yr ysgol ddatblygu’n broffesiynol.
Wrth geisio gwireddu’r uchod, pwysleisir y bartneriaeth a’r cydweithio angenrheidiol rhwng disgyblion, aelodau o staff, rhieni a llywodraethwyr.