HYSBYSEB SWYDD
Athro / Athrawes
Cymraeg (cyfnod mamolaeth)
Ar gyfer mis Tachwedd 2025 tan Gorffennaf 2026
Swydd lawn amser, dros gyfnod mamolaeth yn unig yw hon ac edrychir am athro graddedig gydag arbenigedd mewn dysgu ar draws Cyfnodau Allweddol 3 a 4.
Ystyrir ceisiadau rhan amser.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu a chyfoethogi dulliau addysgu yn yr ysgol, yng nghyd-destun eu meysydd dynodedig, gan sbarduno ein disgyblion i ddatblygu fel dysgwyr creadigol, hyderus a gwybodus.
Bydd brwdfrydedd a hyblygrwydd yn allweddol i’r swydd bwysig hon.
Mae’n hanfodol hefyd bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu’n rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â dangos ymrwymiad amlwg tuag at weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Am fanylion pellach gweler yr hysbyseb ar wefan Eteach a thudalen swyddi Cyngor Sir Gâr.
Gofynnwn i chi gyflwyno eich cais ar dudalen swyddi Cyngor Sir Gâr.
Dyddiad cau: Dydd Mercher 4ydd o Fehefin (canol dydd).
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 9fed o Fehefin 2025.
Cyflog: Prif Raddfa Cyflog
Mae’n ofynnol i bob deiliad swydd gael datgeliad manwl boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin wedi ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo lles disgyblion, pobl ifanc ac oedolion bregus ac mae disgwyl i holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.