HYSBYSEB SWYDD
Athro / Athrawes
Saesneg
Ar gyfer mis Medi 2025 neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny
Swydd lawn amser am flwyddyn yw hon ac edrychir am athro graddedig gydag arbenigedd mewn dysgu ar draws Cyfnodau Allweddol 3 a 4.
Ystyrir ceisiadau rhan amser.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu a chyfoethogi dulliau addysgu yn yr ysgol, yng nghyd-destun eu meysydd dynodedig, gan sbarduno ein disgyblion i ddatblygu fel dysgwyr creadigol, hyderus a gwybodus.
Bydd brwdfrydedd a hyblygrwydd yn allweddol i’r swydd bwysig hon.
Mae’n hanfodol hefyd bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu’n rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â dangos ymrwymiad amlwg tuag at weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Am fanylion pellach gweler yr hysbyseb ar wefan Eteach a thudalen swyddi Cyngor Sir Gâr.
Gofynnwn i chi gyflwyno eich cais ar dudalen swyddi Cyngor Sir Gâr.
Dyddiad cau: Dydd Mercher 4ydd o Fehefin (canol dydd).
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 9fed o Fehefin 2025.
Cyflog: Prif Raddfa Cyflog
Mae’n ofynnol i bob deiliad swydd gael datgeliad manwl boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin wedi ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo lles disgyblion, pobl ifanc ac oedolion bregus ac mae disgwyl i holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.