Pennaeth

Employer
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Location
Sir Gaerfyrddin, Carmarthenshire
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
L28 - L34 (£102,299-£118,494)
Start Date
1st September 2026
Expires
12th January 2026 11:55 PM
Contract Type
Permanent
Job ID
1526986
Job Reference
Eteach/PennaethMedi2026
Start Date
1st September 2026
  • Contract Type :Permanent
  • Job ID: 1526986

HYSBYSEB SWYDD

PENNAETH

I ddechrau Medi 2026

Graddfa Gyflog: £102,299 - £118,494 (L28 – L34)

Dymuna’r Llywodraethwyr benodi Pennaeth brwdfrydig ac ysbrydoledig sydd â’r cymhelliant a’r profiad i arwain Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn hyderus i’r bennod nesaf yn ei hanes. Fel ysgol fro, mae’r ysgol yn cynnig addysg gynhwysol sy’n ceisio ateb anghenion yr unigolyn mewn awyrgylch cefnogol a hollol Gymreig. Bydd rôl y Pennaeth yn hollbwysig er mwyn i’r ysgol barhau i gynnig cyfleoedd eang a deilliannau dysgu rhagorol i bob aelod o gymuned yr ysgol.

Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar sy’n arweinydd llwyddiannus ym maes addysg. Disgwylir i’r unigolyn gynnal safonau addysgol presennol yr ysgol a chynnig gweledigaeth glir i deulu’r ysgol fedru parhau i ddatblygu. Fel un o ysgolion arloesi Cwricwlwm i Gymru, mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn gyfarwydd ag arwain datblygiadau mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Dymuna’r llywodraethwyr benodi Pennaeth fydd yn arwain yr ysgol i fedru adeiladu ar ei llwyddiant ac ymateb yn ddeinamig i ddatblygiadau addysgol yng Nghymru.

Wedi’i lleoli ar gyrion Caerfyrddin, ers ei sefydlu ym 1978 mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin wedi dod i chware rhan bwysig ym mywyd y gymuned drefol a gwledig sy’n ei hamgylchynu. Mae dalgylch yr ysgol yn gartref i sefydliadau megis Canolfan S4C yr Egin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Theatr Cymru, ac yn elwa o fod â mynediad hwylus at draffordd yr M4 i’r dwyrain, ac ardaloedd gorllewin Sir Gaerfyrddin, de Ceredigion a Phenfro. O fewn y gymuned hon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i arwain tîm o staff ymroddedig i sicrhau profiadau cyfoethog i bob dysgwr.

Mae’r Llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi Pennaeth sy’n:

• arweinydd â phrofiad o ddarparu addysg gynhwysol sy’n sicrhau’r cynnydd gorau i ddisgyblion

• angerddol dros Addysg Gymraeg gan gynnal a datblygu ymhellach ethos Gymraeg a Chymreig yr ysgol

• meddu ar y weledigaeth, y creadigrwydd a’r gallu i arloesi a gwneud y gorau o bob cyfle wrth arwain yr ysgol lwyddiannus hon

• gallu adeiladu ar y cryfderau cyfredol a datblygu potensial yr holl ddysgwyr a’r staff

• ymrwymedig i gynnal safonau uchel o ran cyflawniad y cwricwlwm

• gallu ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd pobl ifanc a staff

• gyfathrebydd rhagorol sy’n gallu ymgysylltu’n effeithiol â holl gymuned yr ysgol gan gynnwys plant, rhieni, staff a llywodraethwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Gallwn ni gynnig:

• corff llywodraethol cefnogol

• grŵp ymroddedig o staff addysgu a chynorthwywyr

• disgyblion yn llawn cymhelliant, dycnwch a brwdfrydedd

• ethos gofalgar, Gymreig lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi

• parodrwydd i arloesi

• awyrgylch hapus, croesawgar a chyfeillgar

Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS).

Pe dymunech drefnu ymweliad â’r safle neu gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd, gofynnwn i chi gysylltu gyda Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol.

Gofynnir i chi gyflwyno eich cais drwy dudalen Swyddi Cyngor Sir Gâr.  

Dyddiad cau: Dydd Llun, 12fed o Ionawr 2026

Creu rhestr fer: Dydd Gwener, 16eg o Ionawr 2026

Cyfweliadau: Dydd Llun, 26ain o Ionawr a Dydd Mawrth, 27ain o Ionawr, 2026

Attachments

Safeguarding Statement:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin wedi ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo lles disgyblion, pobl ifanc ac oedolion bregus ac mae disgwyl i holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.  Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin