Yn dilyn dyrchafiad y dirprwy bennaeth, mae yna gyfle cyffrous i ymuno a thim llwyddiannus yng Nghastell-nedd. Dymuna Corff Llywodraethu’r ysgol hon benodi unigolyn brwdfrydig, creadigol, ymroddgar a chydwybodol sydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol arbennig ar gyfer dirprwy bennaeth.
Cafodd yr ysgol ei harolygu gan Estyn yn 2024 a chafodd ei chanmol am ei safonau addysgol uchel, ei hunaniaeth ddiwylliannol gref a'i hamgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol i ddisgyblion. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus rannu gwerthoedd yr ysgol o Garedigrwydd, Cymreictod a Chymuned a gyrru ein cenhadaeth i "roi cyfle i bob plentyn lwyddo".
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon sydd â’r profiad addas i ymgymryd â’r swydd allweddol hon yn yr ysgol, i ddechrau ym mis Medi 2025 (neu chyn gynted â phosib ar ôl hynny).
Caiff y Dirprwy Bennaeth:
• Cefnogaeth staff brwdfrydig
• Cefnogaeth llywodraethwyr a’r gymuned sy’n ymrwymedig i nodau a gweledigaeth yr ysgol
• Cyfle i weithio gyda phlant gweithgar a chyfeillgar yr ysgol
• Ymgymryd mewn gweithgareddau a bywyd hynaws yr ysgol
• Cyfle arbennig i ddatblygu’n broffesiynol.
• Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus:
• Medru ar ddealltwriaeth glir o ofynion y Cwricwlwm Newydd i Gymru
• Yn medru meddwl yn greadigol ac yn strategol ac yn medru datrys problemau a gweithredu’n arloesol
• Medru cyfathrebu’n glir gyda sgiliau ieithyddol cadarn ar lafar ac yn ysgrifenedig
• Medru arwain a rheoli staff yn effeithiol, eu hysbrydoli a’u datblygu’n broffesiynol
• Cydweithio’n arbennig gyda staff a phennaeth yr ysgol
• Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o’r Cod ADY a’r diwygiadau cyfredol yn ymwneud ag ADY
Bydd cyfweliadau ac ymweliadau ysgol yn ystod yr wythnos yn dechrau’r 7fed o Orffennaf.
YGG Castell-nedd is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.