Yn eisiau erbyn 1af Medi 2024
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen yn chwilio am athro/athrawes Mathemateg a Rhifedd brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus i fod yn aelod blaengar o’r tîm addysgu sydd yn gyfrifol am y Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd. Edrychwn am unigolyn egnïol a fyddai’n barod i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol. Cytundeb cyfnod mamolaeth yw hon a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau o fis Medi 2024 ymlaen.
Ysgol pob oed 3-16 cyntaf cyfrwng Cymraeg Sir Benfro yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a’r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.
Chwiliwn am unigolyn a fydd yn hollol ymrwymedig i gyflwyno egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus gan gynnig profiadau addysgiadol arloesol i’r disgyblion. Pennir dyletswyddau a chyfrifoldebau yn unol â’r disgrifiad swydd.
Manylion pellach ynglŷn â’r swydd uchod oddi wrth y Pennaeth Gweithredol, Mr Dafydd Hughes, trwy ffonio neu e-bostio ac yna ceisiadau drwy gwblhau’r ffurflen gais ar wefan CSP gan gynnwys enwau dau ganolwr erbyn dydd Iau, Mai 2ail 2024.
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Caer Elen yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.