Ymgeisiwch yn Gyflym

Uwch Athro/Athrawes | School Lead

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Llundain
Lleoliad
London, Greater London
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
Prif raddfa gyflog + TLR
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
16th Gorffennaf 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1549356
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: Blwyddyn yn y lle cyntaf
  • ID swydd: 1549356

ENGLISH

🏫 About the School

Are you an experienced teacher ready to lead a small, distinctive and unique Welsh school?

Ysgol Gymraeg Llundain offers an educational experience found nowhere else in England. As a Welsh-medium primary school, we enable Welsh-speaking children to learn, play, develop and thrive through Welsh.

Our school is warm, welcoming and closely connected to its community. Every child is known well, and strong relationships between staff, families and governors are central to our success.

Welsh language, culture and identity are at the heart of school life. Pupils take part in the National Eisteddfod, visit Westminster and attend the Urdd residential centre in Llangrannog.

👩‍🏫 The Role

This is a part-time leadership role of two to three full days per week, combining day-to-day school leadership with some teaching.

You will work closely with pupils, staff, families and governors, helping to shape the future of a school that holds a special place in the lives of Welsh-speaking families.

We are looking for an educational leader who can combine vision, organisation, warmth and determination, with a genuine commitment to Welsh-medium education beyond Wales.

🔎 What We Are Looking For

  • A qualified and experienced teacher
  • Fluency in Welsh is desirable, however we would encourage all to apply
  • Experience of leading a school, phase, curriculum area or significant aspect of school life
  • Strong organisational, planning and communication skills
  • The ability to work effectively with staff, families, governors and external partners
  • An inclusive, collaborative and confident leadership style
  • A clear commitment to Welsh language, culture and bilingual education
  • The ability to combine strategic leadership with a practical daily presence

✨ Why Join Us?

Leadership opportunities in Welsh-medium education are rare, and the opportunity to lead a Welsh school in London is particularly special.

You will lead a school with a clear purpose: helping Welsh-speaking children grow into confident, ambitious young people who are proud of their language and identity.

We offer a genuine leadership role, a close-knit and supportive team, and the opportunity to make a lasting difference to the school and the wider Welsh community.

📩 Please contact the school for further information.

🏫 Am yr Ysgol

Ydych chi’n athro neu’n athrawes brofiadol sy’n barod i arwain ysgol Gymraeg fach, arbennig ac unigryw?

Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn cynnig profiad addysgol na cheir yn unman arall yn Lloegr. Fel ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, rydym yn galluogi plant Cymraeg i ddysgu, chwarae, datblygu a ffynnu drwy’r Gymraeg.

Mae ein hysgol yn gynnes, yn groesawgar ac yn agos at ei chymuned. Mae pob plentyn yn cael ei adnabod yn dda, ac mae perthnasoedd cryf rhwng staff, teuluoedd a llywodraethwyr yn ganolog i’n llwyddiant.

Mae’r Gymraeg, diwylliant Cymru a hunaniaeth Gymraeg wrth galon bywyd yr ysgol. Mae’r disgyblion yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ymweld â San Steffan ac yn mynd i Wersyll yr Urdd yn Llangrannog.

👩‍🏫 Y Rôl

Mae hon yn rôl arwain ran-amser am ddau neu dri diwrnod llawn yr wythnos, gan gyfuno arweinyddiaeth ddyddiol yr ysgol â rhywfaint o addysgu.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda disgyblion, staff, teuluoedd a llywodraethwyr, gan helpu i lunio dyfodol ysgol sydd â lle arbennig ym mywydau teuluoedd Cymraeg.

Rydym yn chwilio am arweinydd addysgol sy’n gallu cyfuno gweledigaeth, trefn, cynhesrwydd a phenderfyniad, gyda gwir ymrwymiad i addysg Gymraeg y tu hwnt i Gymru.

🔎 Beth Rydym yn Chwilio Amdano

  • Athro neu athrawes gymwysedig a phrofiadol
  • Rhuglder yn y Gymraeg, gyda’r gallu i addysgu ac arwain drwy’r Gymraeg
  • Profiad o arwain ysgol, cyfnod, maes cwricwlaidd neu agwedd sylweddol ar fywyd ysgol
  • Sgiliau trefnu, cynllunio a chyfathrebu cryf
  • Y gallu i weithio’n effeithiol gyda staff, teuluoedd, llywodraethwyr a phartneriaid allanol
  • Arddull arwain gynhwysol, gydweithredol a hyderus
  • Ymrwymiad clir i’r Gymraeg, diwylliant Cymru ac addysg ddwyieithog
  • Y gallu i gyfuno arweinyddiaeth strategol â phresenoldeb ymarferol o ddydd i ddydd

✨ Pam Ymuno â Ni?

Mae cyfleoedd arwain mewn addysg Gymraeg yn brin, ac mae’r cyfle i arwain ysgol Gymraeg yn Llundain yn arbennig iawn.

Byddwch yn arwain ysgol sydd â phwrpas clir: helpu plant Cymraeg i dyfu’n bobl ifanc hyderus ac uchelgeisiol sy’n falch o’u hiaith a’u hunaniaeth.

Rydym yn cynnig rôl arwain wirioneddol, tîm agos a chefnogol, a chyfle i wneud gwahaniaeth parhaol i’r ysgol ac i’r gymuned Gymraeg ehangach.

📩 Cysylltwch â’r ysgol am ragor o wybodaeth.

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gymraeg Llundain, The Welsh School London yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

Byddwch yn rhan o rywbeth arbennig.

Ymunwch â chymuned ysgol Gymraeg fywiog yn Llundain, lle mae uchelgais, perthyn a chyfle yn dod ynghyd.