Ysgol yr Eglwys yng Nghymru 3-16 oed yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi ac mae’n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a’r cyffiniau. Wedi’i lleoli yn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae’r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae’r disgyblion a’r staff yn falch o’r ethos Cristnogol a chymunedol.
Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf â’r gymuned leol, lle mae cyfleoedd helaeth ar gyfer chwaraeon, gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Mae gan Ysgol Penrhyn Dewi draddodiad ac enw rhagorol am gyfranogiad a chyflawniad cynhwysol yng ngweithgareddau’r cwricwlwm a gweithgareddau allgyrsiol, ac mae eu deilliannau ymhlith y gorau yn y sir a thu hwnt. Mae gan yr ysgol gysylltiadau helaeth ag artistiaid lleol ac rydym yn cydweithio’n rheolaidd â nhw ar gyfer gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol, fel y prosiect pontio presennol Achub ein Moroedd, ac yn ddiweddar rydym wedi cyfrannu at arddangosfa Grahame Hurd-Wood ‘Portreadau o ddinas’ yn y Senedd.
Yn ofynnol ar gyfer mis Medi 2025, mae’r ysgol am benodi ymarferwr blaengar ac arloesol sy’n teimlo’n angerddol am ei bwnc.
Mae’r gallu i ddysgu celf hyd at ac yn cynnwys TGAU yn hanfodol. Mae celf yn opsiwn TGAU cynyddol boblogaidd a chynhwysol gyda chanlyniadau rhagorol. Byddai’r gallu i addysgu ail bwnc yn fantais. Croesewir ac anogir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd wedi’u hyfforddi.
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Penrhyn Dewi yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.