Cyflog: Graddfa 4 SCP 6-11 (£26,873 - £29,099 pro rata ac yn amodol ar ddyfarniad cyflog yn y dyfodol)
Mae Ysgol Plasmawr yn awyddus i benodi swyddog cymorth gweinyddol brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'r tîm gweinyddol.
Mae hon yn swydd parhaol 37 awr yr wythnos (8:00-16:00) yn ystod tymor yr ysgol un unig, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Lleolir Ysgol Plasmawr yn y Tyllgoed yng ngogledd orllewin Caerdydd. Mae gan yr ysgol dros 1100 o ddisgyblion a 120 o staff.
Rydym yn chwilio am berson trefnus, brwdfrydig gyda sgiliau gweinyddol, i weithio mewn swyddfa ysgol brysur lle bydd angen ymateb yn sydyn ac effeithiol i ddigwyddiadau a cheisiadau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gyda tîm gweinyddol profiadol sydd yn cynnig cymorth gweinyddol i’r ysgol gyfan.
Disgwylir hyblygrwydd o ran dyletswyddau, bydd angen i’r person llwyddiannus gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol.
Noder bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gallu cyfrannau at swyddfa a fydd yn gweithredu gan amlaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Dylid anfon ffurflen gais a llythyr sy’n amlinellu eich profiad blaenorol a’ch cymwysterau ar gyfer y swydd at sylw Dr Rhodri Thomas, Pennaeth erbyn 12pm ar ddydd Mawrth 9fed Mehefin 2026.
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Plasmawr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Plasmawr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.