Yn eisiau erbyn Medi 2025 gyda chytundeb dros dro hyd at 31/8/2027.
Graddfa Gyflog Athrawon Heb Gymhwyso (£21,812- £24,348 y flwyddyn + codiad cyflog chwyddiant)
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored i gynnig cwrs hyfforddiant dwy flynedd sy’n arwain at gymhwyster TAR gyda statws athro cymwysedig (SAC/QTS). Mae hwn yn gyfle arbennig i unigolyn gyda gradd yn y Gymraeg neu bwnc cyffelyb sydd eisiau hyfforddi i fod yn athro/athrawes uwchradd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cyflog wrth hyfforddi ac mae’r cwrs wedi ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r rhaglen yn agored i ymgeiswyr sydd â phrofiad o weithio gyda phlant neu ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol.
Dyma gyfle i ymuno gydag ysgol lwyddiannus yng nghanol dinas sydd yn tyfu’n gyflym ac sydd yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau academaidd ac allgyrsiol i’w disgyblion o fewn hinsawdd gynhwysol a gofalgar. Mae gan Ysgol Plasmawr staff profiadol a chefnogol a bydd mentoriaid pwnc ac ysgol gyfan yn sicrhau bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cefnogaeth arbennig i ddatblygu yn athro llwyddiannus.
Mae hi’n gyfnod cyffrous wrth i ysgolion cyflwyno eu cwricwla newydd sy’n ymateb i anghenion eu disgyblion a’u hardaloedd tra’r sicrhau bod disgyblion yn datblygu fel:
• dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
• cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
• dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
• unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Rydym yn edrych am unigolyn sydd yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc a chefnogi ein hegwyddorion sef Parch, Parodrwydd, Perthyn.
DISGRIFIAD O'R RHAGLEN
Gofynion mynediad ar gyfer llwybr cyflogedig tuag at TAR y Brifysgol Agored
Rhaid dal y canlynol, o leiaf:
• Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd
• Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf
• Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). I'r ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais pwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, oherwydd efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.
Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract amser llawn (nid yn ystod y tymor yn unig) tan ddiwedd y rhaglen ym mis Awst 2027 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Safeguarding Statement:
Mae Ysgol Plasmawr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Plasmawr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.