Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Llythrennedd brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yma yn Ysgol Plasmawr. Rydym yn ysgol gyfun 11-18 oed sydd â gweledigaeth glir am gynhwysiant er mwyn galluogi pob disgybl i lwyddo. Cefnogir ystod eang o anghenion dysgu yn y brif ffrwd, yn ogystal ag anghenion llythrennedd. Mae’r ysgol yn gwbl ymroddedig i gefnogi pobl ifanc i aros yn yr ysgol ac i gyflawni eu potensial mewn addysg prif ffrwd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm profiadol o staff ymroddgar a brwdfrydig ac yn bennaf o dan arweiniad Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rinweddau perthnasol i’r swydd, gan gynnwys dycnwch, amynedd, blaengaredd, creadigrwydd meddwl, hiwmor a’r gallu i helpu ein disgyblion gwan o rhan llythrennedd. Disgwylir i ddeiliad y swydd hon i gefnogi disgyblion o fewn dosbarthiadau’r brif ffrwd a hefyd i weithio o fewn ardaloedd magwraeth yr ysgol mewn grwpiau bychain neu drwy fewnbwn 1:1 gyda disgyblion sydd ag anawsterau llythrennedd.Fe fydd angen i’r ymgeisydd weithredu cynlluniau’r Tîm ADY a disgwyliad i gyfathrebu gyda rhieni a theuluoedd. Mi fydd hefyd disgwyliad i helpu trefnu a chynllunio er mwyn datblygu safon llythrennedd unigolion.
Mae hon yn swydd a fydd yn cynnig boddhad proffesiynol uchel ac yn rhoi profiad defnyddiol i unigolyn sydd eisiau datblygu gyrfa o fewn y gweithlu addysg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel uchel o gefnogaeth gan athrawon arbenigol a’r holl adran Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Swydd rhan amser 16.25 awr (2.5 diwrnod) yn ystod tymor unig.
Mae'n ofynnol gwneud cais am dystysgrif DBS uwch ar gyfer y rôl hon
Cyflog: £28,419- 32,736 (CaALl/FTE) pro rata
*Nodwch fod y swydd yn aros am gadarnhad dyfarniad cyflog
Safeguarding Statement:
Mae Ysgol Plasmawr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Plasmawr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.