Cyflog: Graddfa 4 SCP 6-11 (£26,873 - £29,099 pro rata ac yn amodol ar ddyfarniad cyflog yn y dyfodol)
Amdanom Ni
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn ysgol Gymraeg gynhwysol a chefnogol sydd yn ymfalchïo mewn datblygu pob disgybl i’w lawn botensial. Mae ein gwaith wedi’i seilio ar egwyddorion Parch, Parodrwydd a Pherthyn, ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pob aelod o staff at fywyd a llwyddiant yr ysgol.
Byddwch yn ymuno â chymuned ysgol brysur, groesawgar a phwrpasol, lle mae staff yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi disgyblion, teuluoedd a’r ysgol ehangach.
Y Rôl
Rydym yn awyddus i benodi swyddog cymorth gweinyddol brwdfrydig, trefnus ac egnïol i ymuno â’n tîm gweinyddol profiadol.
Bydd y rôl yn cyfrannu’n uniongyrchol at redeg effeithiol yr ysgol o ddydd i ddydd. Byddwch yn cyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol, ariannol a threfniadol, gan gefnogi systemau’r ysgol, cynnal cofnodion, paratoi gwybodaeth ac adroddiadau, cynorthwyo staff a darparu cymorth gweinyddol i’r ysgol gyfan.
Bydd y swydd hefyd yn cynnwys ymateb i geisiadau mewn swyddfa ysgol brysur, delio â materion yn sensitif ac yn broffesiynol, a chyfrannu at drefniadau megis digwyddiadau, adnoddau, cyfleusterau a gweithdrefnau cymorth.
Yr Hyn Rydym yn Chwilio Amdano
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
Sgiliau gweinyddol da a’r gallu i weithio’n gywir ac yn drefnus
Hyder wrth ddefnyddio systemau TGCh a rheoli gwybodaeth
Y gallu i ymateb yn effeithiol mewn amgylchedd ysgol brysur
Sgiliau cyfathrebu da a dull proffesiynol wrth ddelio â staff, disgyblion, rhieni ac ymwelwyr
Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac ar ei liwt ei hun
Hyblygrwydd a pharodrwydd i gyfrannu at anghenion ehangach yr ysgol
Ymrwymiad i ethos, gwaith a nodau Ysgol Plasmawr
Y gallu i gyfrannu at swyddfa sy’n gweithredu gan amlaf drwy gyfrwng y Gymraeg
Byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt brofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd addysgol, ond sy’n gallu dangos y priodweddau, ymagwedd a’r parodrwydd i ddysgu a datblygu yn y rôl.
Pam Ymuno â Ni
Mae hon yn gyfle i ymuno â thîm gweinyddol profiadol sy’n chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd bob dydd yr ysgol.
Byddwch yn rhan o amgylchedd lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi a’i barchu, ac lle mae cyfraniad staff ategol yn ganolog i gefnogi disgyblion, cydweithwyr a chymuned yr ysgol.
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig
Cyfle i fod yn rhan o dîm gweinyddol profiadol a chefnogol
Mmgylchedd ysgol Gymraeg brysur, gynhwysol a phwrpasol
Rôl amrywiol sy’n cyfrannu at redeg effeithiol yr ysgol
Cyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau datblygu fel y bo’n briodol
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.