Athro / Athrawes Cwricwlwm i Gymru / CA3

Employer
Ysgol Plasmawr
Location
Tyllgoed, Cardiff
Contract Type
Fixed term contract
Hours
Full Time
Salary
M1-M6
Start Date
1st September 2025
Expires
26th June 2025 12:00 PM
Contract Type
Fixed term contract
Job ID
1492229
Suitable for
ECT (NQT) Graduates
Job Reference
PlasCiGMedi25
Start Date
1st September 2025
  • Contract Type :Fixed term contract
  • Contract Length: 12 mis
  • Suitable for: ECT (NQT) Graduates
  • Job ID: 1492229

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn gymuned glòs lle mae arwyddair yr ysgol, sef ‘Parch, Parodrwydd, Perthyn’, yn ganolog i bopeth. Dyma gyfle i ymuno ag ysgol lwyddiannus yng nghanol dinas sydd yn tyfu ac sydd yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau academaidd ac allgyrsiol i’w disgyblion o fewn hinsawdd gynhwysol a gofalgar.

Swydd athro/athrawes ar gytundeb blwyddyn yn y man cyntaf yw hon ac ystyrir ceisiadau gan athrawon gydag arbenigedd mewn unrhyw faes dysgu a phrofiad o’r Cwricwlwm i Gymru ond byddai profiad yn un o’r meysydd isod yn fanteisiol:

• Y Dyniaethau, gydag arbenigedd Daearyddiaeth yn fantais.

• Drama a/neu cyfryngau.

• Mathemateg a/neu gwyddoniaeth.

Cynigir cytundeb llawn amser ond ystyrir ceisiadau am gytundeb rhan amser gan ymgeiswyr addas. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar addysgu dosbarthiadau CA3 ond gellid ystyried dosbarthiadau CA4 ac ôl-16 ar gyfer ymgeisydd addas.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno a thîm o staff profiadol, brwdfrydig a llwyddiannus. Mae disgyblion yr Ysgol yn cyrraedd safon uchel yn CA4 a CA5. Mae’r ysgol yn cynnig ystod eang o gyrsiau TGAU ac ôl-16 gyda chyfleoedd allgyrsiol niferus.

Telir cyflog ar raddfa cyflogau athrawon. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.  

Attachments

Safeguarding Statement:

Mae Ysgol Plasmawr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

Ysgol Plasmawr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.