Athro / Athrawes Gwyddoniaeth

School
Ysgol Plasmawr
Location
Tyllgoed, Cardiff
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
M1-M6
Start Date
2nd September 2024
Expires
30th April 2024 12:00 PM
Contract Type
Permanent
Job ID
1414855
Suitable for
ECT (NQT) Graduates
Job Reference
PLASGwyddMedi24
Start Date
2nd September 2024
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: Permanent
  • Suitable for: ECT (NQT) Graduates
  • Job ID: 1414855

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn gymuned glòs lle mae arwyddair yr ysgol, sef ‘Parch, Parodrwydd, Perthyn’, yn ganolog i bopeth. Dyma gyfle i ymuno ag ysgol lwyddiannus yng nghanol dinas sydd yn tyfu ac sydd yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau academaidd ac allgyrsiol i’w disgyblion o fewn hinsawdd gynhwysol a gofalgar.

Swydd athro/athrawes gwyddoniaeth ar gytundeb parhaol yw hon ac edrychir am athro graddedig gydag arbenigedd mewn addysgu unrhyw agwedd o wyddoniaeth ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae’r gallu i ddysgu cwrs neu gyrsiau ôl-16 bioleg, cemeg neu ffiseg yn fanteisiol ond nid yw’n angenrheidiol. Cynigir cytundeb llawn amser ond ystyrir ceisiadau am gytundeb rhan amser gan ymgeiswyr addas.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag adran brofiadol, brwdfrydig a llwyddiannus. Mae disgyblion yr Ysgol yn cyrraedd safon uchel yn CA4 a CA5. Mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol ac Uwch yn y gwyddorau ac mae’r pynciau hyn ymysg y rhai fwyaf poblogaidd yn yr ysgol. Mae nifer o fyfyrwyr y chweched dosbarth yn mynd ymlaen i astudio cyrsiau gwyddonol, meddygol neu beirianneg yn y brifysgol yn flynyddol.

Telir cyflog ar raddfa cyflogau athrawon. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.

Attachments

Safeguarding Statement:

Mae Ysgol Plasmawr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.