Athro / Athrawes Mathemateg (dan hyfforddiant)

Employer
Ysgol Plasmawr
Location
Tyllgoed, Cardiff
Contract Type
Fixed term contract
Hours
Full Time
Salary
£22,685- £25,322
Start Date
1st September 2026
Expires
17th April 2026 12:00 PM
Contract Type
Fixed term contract
Job ID
1537536
Job Reference
PlasTARMaths26
Start Date
1st September 2026
  • Contract Type :Fixed term contract
  • Contract Length: 2 flyneddd
  • Job ID: 1537536

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored i gynnig cwrs hyfforddiant dwy flynedd sy’n arwain at gymhwyster TAR gyda statws athro cymwysedig (SAC/QTS). Mae hwn yn gyfle arbennig i unigolyn gyda gradd mewn Mathemateg neu bwnc cyffelyb sydd eisiau hyfforddi i fod yn athro/athrawes uwchradd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cyflog wrth hyfforddi ac mae’r cwrs wedi ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhaglen yn agored i ymgeiswyr sydd â phrofiad o weithio gyda phlant neu ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol.

Dyma gyfle i ymuno gydag ysgol lwyddiannus yng nghanol dinas sydd yn tyfu’n gyflym ac sydd yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau academaidd ac allgyrsiol i’w disgyblion o fewn hinsawdd gynhwysol a gofalgar. Mae gan Ysgol Plasmawr staff profiadol a chefnogol a bydd mentoriaid pwnc ac ysgol gyfan yn sicrhau bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cefnogaeth arbennig i ddatblygu yn athro llwyddiannus.

Mae hi’n gyfnod cyffrous wrth i ysgolion cyflwyno eu cwricwla newydd sy’n ymateb i anghenion eu disgyblion a’u hardaloedd tra’r sicrhau bod disgyblion yn datblygu fel:

• dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau

• cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith

• dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd

• unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Rydym yn edrych am unigolyn sydd yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc a chefnogi ein hegwyddorion sef Parch, Parodrwydd, Perthyn.

DISGRIFIAD O'R RHAGLEN

Gofynion mynediad ar gyfer llwybr cyflogedig tuag at TAR y Brifysgol Agored

Rhaid dal y canlynol, o leiaf:

• Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd

• Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf

• Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). Rhaid i chi feddu ar radd sydd ag o leiaf 50% o berthnasedd i'r pwnc.

Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract amser llawn (nid yn ystod y tymor yn unig) tan ddiwedd y rhaglen ym mis Awst 2028 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Graddfa Gyflog Athrawon Heb Gymhwyso (£22,685- £25,322 y flwyddyn + codiad cyflog chwyddiant)

Attachments

Safeguarding Statement:

Mae Ysgol Plasmawr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

Ysgol Plasmawr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.