Cyflog: Graddfa 4 SCP 6-11 (£26,873 - £29,099 pro rata ac yn amodol ar ddyfarniad cyflog yn y dyfodol)
Mae Ysgol Plasmawr yn awyddus i benodi swyddog cymorth gweinyddol brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'r tîm gweinyddol.
Mae hon yn swydd parhaol 37 awr yr wythnos (8:00-16:00) yn ystod tymor yr ysgol un unig, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Lleolir Ysgol Plasmawr yn y Tyllgoed yng ngogledd orllewin Caerdydd. Mae gan yr ysgol dros 1100 o ddisgyblion a 120 o staff.
Rydym yn chwilio am berson trefnus, brwdfrydig gyda sgiliau gweinyddol, i weithio yn ein hardal cynnydd disgyblion.
Mae’r ardal hon yn lle prysur ac yn hwb i holl weithdrefnau’r ysgol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddigwyddiadau a cheisiadau. Mae’n hanfodol bod gan yr aelod staff yma’r awydd a’r gallu i weithio gyda disgyblion.
Disgwylir hyblygrwydd o ran dyletswyddau, bydd angen i’r person llwyddiannus gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol.
Noder bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gallu cyfrannau at swyddfa a fydd yn gweithredu gan amlaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Dylid anfon ffurflen gais a llythyr sy’n amlinellu eich profiad blaenorol a’ch cymwysterau ar gyfer y swydd at sylw Dr Rhodri Thomas, Pennaeth erbyn 12pm ar ddydd Mawrth 9fed Mehefin 2026.
Mae Ysgol Plasmawr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.