Technegydd Cynorthwyol Gwyddoniaeth Assistant Science Technician

Cyflogwr
Ysgol Plasmawr
Lleoliad
Tyllgoed, Cardiff
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Adeg y tymor yn unig
Cyflog
Graddfa 3 SCP3-6 (£23,987 - £25,143 pro rata)
Dyddiad cychwyn
5th January 2026
Yn dod i ben
6th Tachwedd 2025 01:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1514698
Cyfeirnod y swydd
PlasTechGwydd24
Dyddiad cychwyn
5th January 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: 12 mis
  • ID swydd: 1514698

Mae Ysgol Plasmawr yn frwd i benodi Technegydd Cynorthwyol i’r adran Wyddoniaeth.

Dyma gyfle i ymuno ag ysgol lwyddiannus yng nghanol y ddinas sydd yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau academaidd ac allgyrsiol i’w disgyblion o fewn hinsawdd gynhwysol a gofalgar

Mae’r adran wyddoniaeth yn arbennig o lwyddiannus a phoblogaidd, mae ei chanlyniadau arholiadau allanol yn ganmoladwy a mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn dilyn cyrsiau Gwyddonniaeth TGAU a chyrsiau UG ac Uwch.

Edrychir am ymgeisydd egnïol a brwdfrydig fydd yn medru cyfrannu at y gyfadran a fydd yn rhannu gweledigaeth gynhwysol yr ysgol.

Mae profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd labordy yn ddymunol ond nid yn hanfodol; byddai awydd a pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd yn hynod fanteisiol.

*Noder y bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud cais am DBS uwch drwy'r ysgol. Bydd angen cwblhau hyn cyn i'r cyflogaeth ddechrau.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Plasmawr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.