Uwch Gynorthwyydd Gwarchod

Cyflogwr
Ysgol Plasmawr
Lleoliad
Tyllgoed, Cardiff
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Adeg y tymor yn unig
Cyflog
£29,099 - £33,151 pro rata
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
13th Gorffennaf 2026 09:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1563436
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates; Other Graduates
Cyfeirnod y swydd
PlasUGGMedi26
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: 12 mis
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates; Other Graduates
  • ID swydd: 1563436

Mae’r Ysgol yn frwd i benodi uwch gynorthwyydd gwarchod ar gytundeb hyd at diwedd Awst 2027 yn y lle cyntaf i ymgymryd â rôl o warchod ac arwain dosbarthiadau yn absenoldeb athrawon. Edrychir am ymgeisydd egnïol a hyblyg fydd yn medru ymdopi a’r her o gefnogi athrawon wrth gynllunio ac arwain gwersi yn absenoldeb yr athrawon arferol.

Manylion cyflog - graddfa 5 pwynt 11-19 (£29,099 - £33,151) PRO RATA ar sail 32.5 awr yr wythnos 39 wythnos y flwyddyn (yn aros dyfarniad cyflog diweddaraf)

Croesawir ceisiadau gan athrawon cymwys.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyd-weithio’n agos gyda staff atodol yr Ysgol i gynnal rhaglen warchod wythnosol a chydweithio’n agos gydag Arweinwyr Pwnc yr Ysgol wrth sicrhau bod disgyblion yn derbyn gwersi priodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol lwyddiannus sydd wedi ymrwymo i ddatblygu ei staff yn broffesiynol.

Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.

Am wybodaeth bellach am y swydd hon dylid cysylltu â’r Pennaeth, Dr Rhodri Thomas

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Plasmawr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.