Lleoliad
Swavesey
Cambs
CB24 4RS
Ysgol uwchradd 11-18 oed ym mhentref Bodedern yw Ysgol Uwchradd Bodedern, sy'n addysgu'r mwyafrif helaeth o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy hynny rydym yn ymfalchïo yn y fraint o ddatblygu plant ac oedolion ifanc gogledd yr ynys ac ynys Cybi yn ddinasyddion dwyieithog.
Ein nod fel ysgol yw sicrhau fod yr holl ddisgyblion a myfyrwyr a ddaw atom yn cyflawni eu potensial ac yn ein gadael yn ddinasyddion moesol, egwyddorol a pharchus gyda’r sgiliau i gyfrannu’n llawn at gymdeithas yr unfed ganrif ar hugain.
Mae tîm o athrawon a staff cefnogi Ysgol Uwchradd Bodedern yn gwbl ymrwymiedig i wneud gwahaniaeth i fywydau’r disgyblion dan ein gofal, a chynigiwn gwricwlwm eang, amrywiol a heriol ar gyfer pob oedran.
Yn sicr, pan fydd yr amodau yn caniatáu unwaith eto bydd y disgyblion yn mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol er mwyn datblygu eu diddordebau ehangach a chyfoethogi eu bywydau. Rydym yn argyhoeddedig fod gan bob disgybl yn yr ysgol botensial aruthrol a gweithiwn yn angerddol i feithrin y talentau hyn.
Rwy’n falch iawn o’r fraint o gael bod yn bennaeth ar Ysgol Uwchradd Bodedern, yn enwedig a minnau yn hogyn o’r pentref ac yn gyn-disgybl fy hun. Rwy’n hynod ffodus o gael cyd weithio gyda thîm ymroddedig o staff, disgyblion a rhieni. Dim ond trwy’r cydweithio hwn y gellir sicrhau’r awyrgylch cadarnhaol yma er mwyn i ni gyflawni’n gweledigaeth fel ysgol gyda phawb yn dysgu.
Gan ddiolch o galon i chi am eich cefnogaeth i’r ysgol a dymuniadau gorau i chi gyd.
Gyda’n gilydd fe wnawn gyrraedd ein potensial.
Paul G S Matthews-Jones
Pennaeth
Ymddiheuriadau, nid ydym yn recriwtio i unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd
Byddem wrth ein bodd petaech am ymuno â'n Cronfa Dalent fel y gallwn gysylltu â chi pan fydd y swydd wag gywir yn codi.
‘Hau i Fedi’ yw arwyddair Ysgol Uwchradd Bodedern ac fe welir hynny’n glîr ar fathodyn yr ysgol lle mae ôl bawd yn gwthio hedyn i’r tir.
Dyma arwyddair oedd wedi ei selio ar weledigaeth Pennaeth cyntaf yr ysgol, Mr Carol Hughes – yr hedyn yn cynrychioli’r disgyblion sy’n tyfu i fod yn gnwd iach. Term amaethyddol yw’r arwyddair sy’n gydnabyddiaeth o’r gymuned amaethyddol gref sydd ym Mro Alaw yn enwedig yn 1977 pan agorwyd ddrysau’r ysgol am y tro cyntaf.
Lleoliad
Swavesey
Cambs
CB24 4RS