Swydd Athro neu Gydlynydd Cwricwlaidd Dylunio a Thechnoleg
CAD 2a (i ymgeisydd addas)
Swydd ar Safle Bro Dur ym Mhort Talbot ydy hon
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro Dylunio a Thechnoleg brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n hadran DT. Mae’r swydd hon yn agored i ystod eang o ymgeiswyr — o athrawon ar ddechrau eu gyrfa i ymarferwyr profiadol sy’n barod i ymgymryd â rôl arwain adran.
Yn dibynnu ar brofiad, penodir yr ymgeisydd llwyddiannus fel:
• Athro Dylunio a Thechnoleg, neu
• Cydlynydd Dylunio a Thechnoleg (gyda CAD 2a)
I’r ymgeisydd cywir, ceir cyfle gwirioneddol i ddatblygu i rôl arwain dros amser, gyda chefnogaeth mentora a datblygiad proffesiynol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn frwdfrydig am Dylunio a Thechnoleg ac yn ymrwymedig i addysgu a dysgu o ansawdd uchel, unigolyn sydd yn gallu ysbrydoli creadigrwydd, y gallu i ddatrys problemau a sgiliau ymarferol ymysg ein disgyblion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gallu i addysgu hyd at Safon TGAU o fewn y pwnc, i gadw a chodi safonau ac i sicrhau fod cwricwlwm yr Adran yn gwireddu Pedwar Diben Cwricwlwm i Gymru
Ar gyfer ymgeiswyr ar lefel arweinyddiaeth, neu’r rhai sy’n dyheu am arwain, rydym hefyd yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd:
• Â phrofiad, neu ddiddordeb, mewn datblygu’r cwricwlwm a gwella’r adran
• Yn awyddus i gyfrannu at gyfeiriad strategol Dylunio a Thechnoleg o fewn yr ysgol
• Yn dangos potensial i arwain, ysgogi a datblygu eraill dros amser
•
Mae campws Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol, sy’n gweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfleoedd allgyrsiol ac am y cyfnod hynod lwyddianus o Amser Aur bob prynhawn Gwener.
Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu deinamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.
Proses Ymgeisio
Gellir ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Gwener Chwefror 23ain 2026
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2026
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.