Swydd Athro/awes Ieithoedd Tramor Modern
(Sbaeneg / Ffrangeg)
Swydd ar safle Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot yw hon.
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes ymroddgar i swydd i addysgu Ieithoedd Tramor Modern ym Mro Dur o fis Medi 2025 ymlaen.
Mae Ieithoedd Tramor Modern wedi’i sefydlu yn hynod lwyddiannus yn yr ysgol newydd hon gyda niferoedd sydd yn astudio’r pwnc i lefel TGAU bob blwyddyn yn dyst i fwynhad y disgyblion o’r pwnc. Ar hyn o bryd mae’r disgyblion yn mwynhau gwersi Sbaeneg a Ffrangeg ym Mlwyddyn 7, 8 a 9, gyda niferoedd iachus yn parhau i wneud y ddau bwnc ar gyfer TGAU. Credwn yn gryf mai dwyieithrwydd yw’r cam cyntaf ar gyfer aml-ieithrwydd – a mae gan y pwnc bwysigrwydd cadarn o fewn y Maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Mae campws Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Mae’r swydd hon yn gyfle gwych i addysgu’n llwyr o fewn eich maes (ITM), arwain ar gwricwlwm cyfoes, blaengar a deniadol tra’n ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol, sy’n gweithio’n agos i ddatblygu sgiliau iaith ein disgyblion. Byddai modd i ni ystyried lwfans rectiwio dros dro ar gyfer unigolyn addas i ymgymryd a’r rôl bwysig hon.
Byddwch yn ymuno a thîm o staff clos a chefnogol sydd yn frwdfrydig dros ddarparu’r cyfleoedd gorau i ddisgyblion ein hardal. Mae brwdfrydedd a gweledigaeth gadarn i gyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn flaenoriaeth glir i’r ysgol. Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu deinamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon a’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr ysgol – cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies am sgwrs anffurfiol.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Gwener, Mai 2, 2025
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2025
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.