Swydd: Athro
Graddfa Cyflog Athrawon
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gymraeg Bro Dur am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Dur yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion 11–16 oed, wedi’i lleoli yn agos i Draeth Melyn Port Talbot—dim ond pum munud o’r draffordd. Wedi’i lleoli mewn adeiladau modern a phwrpasol newydd sbon, mae’r ysgol yn cynnig amgylchedd dysgu rhagorol i gymuned ysgol fechan, glos a chyfeillgar o tua 500 o ddisgyblion, gyda chynnydd sylweddol wedi’i ragweld dros y tair blynedd nesaf. Mae ein tîm o staff ifanc a brwdfrydig yn rhannu ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol, gyda’r egwyddorion Ysgol Fel Sefydliad Dysgu yn greiddiol i’n gweledigaeth ac yn sail i’n diwylliant o gydweithio, arloesi ac uchelgais.
Mae’r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gymraeg Bro Dur i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant neu Met Caerdydd byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
• Cynllunio gwersi
• Asesu, marcio ac adborth
• Rheolaeth ddosbarth
• Datblygu dycnwch
• Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Proses ymgeisio:
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru (gweler ffurflen gais am fanylion) erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 22 Chwefror 2026.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng 9fed a'r 13ydd Mawrth..
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg - Hwbneu os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth neu Miss Sioned Jones
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.