“Nid da lle gellir gwell”
“Nid da lle gellir gwell”
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Y Strade ym 1977 fel Ysgol Gyfun Ddwyieithog i fechgyn a merched rhwng 11 a 18+ oed.
Mae’r ysgol yn ymrwymo ei hun fel sefydliad i gynnal a chodi safonau gwaith ac ymddygiad y disgyblion ac i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg mewn cymuned ddwyieithog. Mae cynllun datblygiad a thargedau gwelliant blynyddol yr ysgol yn cyfeirio at y prif nodau hyn.
Llanelli, Carmarthenshire
12th Medi 2025
M2 - UPS3
Amser Llawn
Mae Pennaeth a Llywodraethwyr ein hysgol yn dymuno penodi Athro ymroddedig, sy'n angerddol am addysgu a datblygu plant i ddod yn unigolion annibynnol a hyderusi ddechrau yn y swyd ...
Llanelli, Carmarthenshire
12th Medi 2025
M2 - UPS3
Amser Llawn
Mae Pennaeth a Llywodraethwyr ein hysgol yn dymuno penodi Athro ymroddedig, sy'n angerddol am addysgu a datblygu plant i ddod yn unigolion annibynnol a hyderus i ddechrau yn y swy ...
Ein cwricwlwm yn seiliedig ar bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond hefyd yr ydym yn cynnig meysydd eraill yr ydym yn eu hystyried yn bwysig megis y Cwricwlwm Cymreig a chyrsiau galwedigaethol. Mae'r ysgol yn gosod nifer o dargedau a bennwyd gan y Llywodraeth ac yn gosod nifer o dargedau ei hunan yn flynyddol. Yn gyffredinol mae'r rhain yn uwch na'r targedau sirol a chenedlaethol Cyhoeddir y rhain a gwybodaeth berthnasol yn y Prosbectws ac yn Adroddiad Blynyddol y Corff Llywodraethol Rydym yn sicr fod ein Cwricwlwm yn un eang, cytbwys a pherthnasol a'n bod yn addysgu pob disgybl yn ol ei allu a'i ddiddordeb a bod pob disgybl yn cael ei ymestyn hyd eithaf ei allu. Cymeriad ein hysgol Ysgol Gymraeg sy'n darparu addysg ddwyieithog yw ein hysgol ni. Mae yna awyrgylch gymdeithasol hapus o fewn ein hysgol ac anogir y disgyblion i fod yn falch o'u hysgol, o'u cymdeithas a'u gwlad. Disgwylir i ddisgyblion siarad Cymraeg yn ystod diwrnod ysgol. Rhoddir cyfle i bob disgybl feddwl drosto'i hun, i wahaniaethu rhwng y da a'r drwg, y pwysig a'r dibwys, ac i barchu eu hun ac eraill. Anogir pob disgybl i wasanaethu'r gymuned y mae'n rhan ohoni a'i wneud yn fwy ymwybodol o'i amgylchedd.