NEW

ATHRO / ATHRAWES SAESNEG

Cyflogwr
Ysgol Y Strade
Lleoliad
Llanelli, Carmarthenshire
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
M2 - UPS3
Dyddiad cychwyn
7th May 2026
Yn dod i ben
15th Mai 2026 10:00 AM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1549491
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates
Cyfeirnod y swydd
Saesneg Medi 2026
Dyddiad cychwyn
7th May 2026
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: 1 Year - 01/09/26 - 31/08/27
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates
  • ID swydd: 1549491

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/athrawes cymwys a brwdfrydig i’r adran Saesneg. Ymfalchïwn yr hanes hir o lwyddiant sydd i’r ysgol a’r adran. Mae ffocws cryf ar ddatblygu gwybodaeth a sgiliau addysgu

athrawon o fewn yr ysgol a sicrhau amgylchedd dysgu o’r safon uchaf. Edrychwn am unigolyn egnïol fyddai’n frwd i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr adran a’r ysgol. Bydd cyfle i

ddysgu dosbarthiadau ar draws yr ystod oed a gallu yn yr adran. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu o fewn yr adran Saesneg i’r holl ystod gallu o flwyddyn 7 i flwyddyn 11. Mae canlyniadau’r gyfadran

ar bob lefel yn destun balchder yn flynyddol.

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr ysgol, ynghyd â chopi o’r prosbectws oddi ar ein gwefan, neu, os am sgwrs anffurfiol cysylltwch gyda, Mr Adam Powell, Dirprwy Bennaeth ar rif yr ysgol.


Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Y Strade yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.