Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/athrawes cymwys a brwdfrydig i’r adran Gymraeg. Ymfalchïwn yr hanes hir o lwyddiant sydd i’r ysgol a’r adran. Mae ffocws cryf ar ddatblygu gwybodaeth a sgiliau addysgu athrawon o fewn yr ysgol a sicrhau amgylchedd dysgu o’r safon uchaf. Edrychwn am unigolyn egnïol fyddai’n frwd i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr adran a’r ysgol. Bydd cyfle i ddysgu dosbarthiadau ar draws yr ystod oed a gallu yn yr adran. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu o fewn yr adran Gymraeg i’r holl ystod gallu o flwyddyn 7 i flwyddyn 11. Mae canlyniadau'r gyfadran ar bob lefel yn destun balchder yn flynyddol.
Gellir cael mwy o wybodaeth am yr ysgol, ynghyd â chopi o’r prosbectws oddi ar ein gwefan, neu, os am sgwrs anffurfiol cysylltwch gyda, Mr Adam Powell, Dirprwy Bennaeth ar rif yr ysgol.
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Y Strade yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.